Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 FPL/2021/220 – Cais llawn i gadw’r adeilad parod am gyfnod dros dro hyd at fis Mawrth 2022 i gartrefu dwy ystafell ddosbarth a thoiledau i’w defnyddio gan ddisgyblion yng Nghanolfan Addysg y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.
12.2 FPL/2021/163 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ymestyn yr adeilad rhestredig ynghyd â gwaith tirlunio yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi grym i’r Swyddog weithredu wedi i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.
12.3 LBC/2021/24 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ac estyniadau ynghyd ag addasiadau mewnol ac allanol i’r adeilad yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2021/108 – Cais llawn ar gyfer troi’r adeilad allanol yn annedd fforddiadwy ynghyd a’i addasu a’i ymestyn yn Fedw Uchaf, Brynrefail, Dulas
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd yr ystyriwyd bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi TAI3, nad oes defnydd cyflogaeth arall i’r adeilad ac nad yw’r addasiadau yn sylweddol.
(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais).
12.5 FPL/2021/106 – Cais llawn ar gyfer cadw cwt pren i ddal peiriant gwerthu llefrith (Dosbarth Defnydd A1) ynghyd â llain galed a lle parcio, addasu’r fynedfa bresennol i gerbydau a gwaith tirlunio cysylltiedig yn Neuadd, Cemaes
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 06/10/2021
Dyddiad y penderfyniad: 06/10/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: