Manylion y penderfyniad

Revenue Budget Monitoring - Quarter 2, 2021/22

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

·         Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yn hyn a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2021/22. Mae’r sefyllfa’n ddibynnol ar dderbyn cymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru i gyllido’r golled ariannol a’r costau ychwanegol sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol o ganlyniad i’r Coronafeirws.

·         Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2021/22 fel y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.

  • Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH yr adroddiad.

·        Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2021/22 yn Atodiadau D a DD yr adroddiad.

Dyddiad cyhoeddi: 29/11/2021

Dyddiad y penderfyniad: 29/11/2021

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: