Manylion y penderfyniad

Cost of Living – Discretionary Scheme

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD :-

·         Cymeradwyo darparu £150 i’r grwpiau a nodir yn adran 2.1.1 yn yr adroddiad, a bod cyllideb gwerth £150,000 yn cael eu gweinyddu gan  Adain Refeniw a Budd-daliadau Cyngor Sir Ynys Môn;

·         Cymeradwyo cyllid caledi i drigolion sy’n symud o lety brys i lety sefydlog:-

Hyd at £300 o gyllid i dalu am gostau bwyd a / neu danwydd wrth symud i lety mwy sefydlog. Gellir defnyddio’r cyllid i dalu am gostau tanwydd uniongyrchol megis olew. Yn ychwanegol, gellir defnyddio’r cyllid i gefnogi costau dodrefnu. Bydd y cyllid o £50,000 yn cael ei weinyddu gan y Gwasanaeth Digartrefedd Statudol yn seiliedig ar anghenion asesedig.’

·         Cymeradwyo £150 ar gyfer trigolion Ynys Môn sydd mewn Addysg Uwch ac sy’n rhentu neu’n berchen llety ar yr Ynys ac sydd wedi’u heithrio o gam un:-

£5,000 i’w ddarparu i Grŵp Llandrillo Menai i weinyddu ar gyfer y grŵp uchod;

£5,000 i’w ddarparu i Brifysgol Bangor i weinyddu ar gyfer y grŵp uchod.

·         Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer ail gam y cynllun costau byw ar gyfer trigolion Ynys Môn sy’n gyn-aelodau o’r lluoedd arfog / cyn-filwyr ac sydd mewn caledi ariannol. Bydd y taliad o hyd at £300 i bob aelwyd sy’n wynebu caledi yn seiliedig ar anghenion asesedig:-

‘£10,000 i’w ddarparu i Leng Brydeinig Ynys Môn a SAFFA i gefnogi cyn-filwyr sy’n wynebu caledi

·         Cymeradwyo’r grŵp canlynol ar gyfer trigolion Ynys Môn sydd mewn caledi ariannol ac sydd heb fynediad at gyllid caledi ychwanegol, megis y Gronfa Cymorth Dewisol. Fe all y cyllid gefnogi costau bwyd a thanwydd.

·         Bydd yr agwedd hon yn cefnogi trigolion sydd yn wynebu tlodi er eu bod mewn gwaith. Bydd y taliad hwn o hyd at £300 yn seiliedig ar anghenion asesedig a gellir ei weinyddu gan ein Huned Hawliau Lles mewnol (O’Toole), ein Tîm Cynhwysiant Ariannol a CAB Ynys Môn.

·         Bydd yr agwedd hon yn cynnwys pob math o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol a bydd yn canolbwyntio ar dystiolaeth o galedi. 100,000 i’w weinyddu gan ein Huned Hawliau Lles mewnol (O’Toole), ein Tîm Cynhwysiant Ariannol a CAB Ynys Môn.

·         Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) /  Swyddog Adran 151 Cyngor Sir i gynyddu cyllidebau sefydliadau yn seiliedig ar achosion busnes derbyniol, sy’n dangos yr angen a’r galw.

 

Dyddiad cyhoeddi: 28/06/2022

Dyddiad y penderfyniad: 28/06/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/06/2022 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: