Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r argymhellion canlynol -
· Nad yw’r Cyngor yn mabwysiadu’r Ardoll Ymwelwyr o ystyried yr ansicrwydd sy’n wynebu’r sector twristiaeth ar hyn o bryd a chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a’r asesiadau effaith.
· Bydd y Cyngor yn monitro, adolygu ac yn ystyried tystiolaeth effaith yr Ardoll Ymwelwyr mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a ddewisodd fabwysiadu’r Ardoll, ac unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth berthnasol.
· Bydd y Prif Weithredwr, ar ôl ymgynghori â'r Arweinydd, yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am adolygiad o'r drefn ddeddfwriaethol bresennol i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y broses ymgynghori ddiweddar. Dylid rhannu llythyr o'r fath at Lywodraeth Cymru gyda’r holl aelodau etholedig.
Dyddiad cyhoeddi: 22/09/2026
Dyddiad y penderfyniad: 22/09/2026
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/09/2026 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: