Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd nodi’r canlynol –
• Y sefyllfa a amlinellir yn atodiadau A a B yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2018/19;
• Y crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2018/19 fel y manylir arnynt yn Atodiad C;
• Y sefyllfa mewn perthynas â’r Rhaglenni Buddsoddi i Arbed yn Atodiad CH;
• Y sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd 2018/19 yn Atodiad D;
• Y modd y caiff costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2018/19 fel yr amlinellir yn Atodiadau DD ac E, a fod –
• Yr ad-daliad TAW annisgwyl oddeutu £800k yn cael ei gredydu i gronfa wrth gefn glustnodedig y byddir yn penderfynu ar ei defnydd yn nes ymlaen.
Dyddiad cyhoeddi: 17/09/2018
Dyddiad y penderfyniad: 17/09/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/09/2018 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: