Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
• Nodi’r polisi cyffredinol ynglŷn â chronfeydd wrth gefn a balansau a fabwysiadwyd ar 1 Mawrth 2016, fel y nodir hynny yn Atodiad A;
• Cymeradwyo'r newid i'r polisi cyffredinol ar gronfeydd wrth gefn a balansau a fabwysiadwyd ar 1 Mawrth 2016, fel y nodir hynny yn Atodiad A;
• Pennu isafswm balansau cyffredinol o £7.11m ar gyfer 2020/21 yn unol ag asesiad y Swyddog Adran 151;
• Cynllunio am gynnydd yn y balansau cyffredinol dros gyfnod o 3 i 5 mlynedd er mwyn sicrhau fod lefel gwirioneddol y cronfeydd wrth gefn yn cyrraedd y lefel sylfaenol. Cyflawnir y cynnydd yma drwy gyllidebu am wargedau blynyddol a gynllunnir;
• Cadarnhau parhad y cronfeydd wrth gefn presennol a glustnodwyd;
• Cymeradwyo trosglwyddo cronfeydd wrth gefn Morgeisi Gofalwyr Maeth a System Rheoli Polisïau o’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i’r Cronfeydd wrth gefn Cyffredinol.
Dyddiad cyhoeddi: 02/03/2020
Dyddiad y penderfyniad: 02/03/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: