Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 OP/2020/6 – Cais amlinellol ar gyfer adeiladu
31 Anheddau Preswyl newydd yn cynnwys
manylion llawn am ffordd ystâd newydd ar
dir gyferbyn â Roebuck Estate,
Llanfachraeth, Caergybi
Mae’r cais wedi’i dynnu’n ôl.
12.2 FPL/2020/264 – Cais llawn ar gyfer codi 8
uned busnes (Dosbarth B1, B2 a B8)
adeiladu ardaloedd tirlunio medal
a chaled ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir
yn yr Hen Safle Hofrennydd, Stad
Ddiwydiannol Penrhos, Penrhos, Caergybi.
Mae’r cais wedi’i dynnu’n ôl.
12.3 FPL/2020/195 – Cais llawn ar gyfer addasu ac
ehangu yn y Sea Shanty Cafe, Lon St Ffraid,
Bae Trearddur.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.4 HHP/2020/302 – Cais llawn ar gyfer addasu
ac ehangu yn 38 Lôn Conwy, Benllech.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol
ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn
amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi
eu cynnwys yn yr adroddiad.
12.5 MAO/2020/31 – Mân newidiadau i gynllun
sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan
ganiatád cynllunio FPL/2019/7 (Codi ysgol
gynradd) er mwyn diwygio’r claddin a
tynnu 2 dosbarth ar dir gyferbyn â Bryn
Meurig, Llangefni
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol
ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn
amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi
eu cynnwys yn yr adroddiad.
12.6 FPL/2020/258 – Cais llawn ar gyfer trosi cwrt
tennis presennol i fod yn arwyneb 3G
synthetig, amnewid y ffens bresennol am
ffens 4.5 metr o uchder ynghyd ag amnewid
y goleuadau presennol am oleuadau LED
newydd ym Mharc Garreglwyd, Ffordd Ynys
Lawd, Caergybi.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol
ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn
amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi
eu cynnwys yn yr adroddiad.
12.7 VAR/2020/66 – Cais o dan Adran 73 i dynnu
amod (10) (Sgrin gwydr aneglur) o caniatâd
cynllunio rhif FPL/2019/134 (Codi 8
rhandy) yn Yr Hen Ysgol Gynradd, Lôn
Pentraeth, Porthaethwy.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i
argymhelliad y Swyddog oherwydd edrych
drosodd annerbyniol i’r eiddo cyfagos
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor,
gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod
nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion
baratoi adroddiad mewn perthynas â’r
rhesymau a roddwyd am ganiatáu’r cais.
Dyddiad cyhoeddi: 10/02/2021
Dyddiad y penderfyniad: 10/02/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: