Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

 12.1  FPL/2025/108 – Cais llawn ar gyfer ailddatblygu Canolfan Penrallt yn westy bwtîc 13 ystafell wely a lleoliad priodas ynghyd â gwaith addasu ac ehangu yng Nghanolfan Penrallt, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12. 2  LBC/2025/24 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gosod plac ym Mhlas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar dderbyn caniatâd adeilad rhestredig gan Adain Gynllunio Llywodraeth Cymru gan fod y tir ym meddiant y Cyngor.

 

12.3 CAC/2025/3 - Cais Ardal Gadwraeth ar gyfer dymchwel yr adeilad a chodi palis dros dro ynghyd â chreu man cyhoeddus newydd yn cynnwys tirlunio caled a meddal, systemau draenio cynaliadwy ac isadeiledd a gwaith ategol yn 97 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar dderbyn caniatâd gan Adain Gynllunio Llywodraeth Cymru gan fod y cais mewn ardal gadwraeth a chan ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

12.4 ADV/2025/7 - Cais i osod paneli hysbysebu dros dro mewn perthynas ag ail ddatblygu'r safle yn 91-97 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.

Dyddiad cyhoeddi: 05/11/2025

Dyddiad y penderfyniad: 05/11/2025

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/11/2025 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: