4 Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 773 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith ddiweddaredig y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Hydref, 2018 i Mai, 2019 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref, 2018 a mis Mai, 2018 ar gyfer ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod yr eitemau a ganlyn yn eitemau newydd ar Flaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith -
• Eitemau 5, 6, 7, 8 a 9 sydd wedi’u rhaglennu i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 29 Hydref, 2018.
• Eitem 11, yn amodol ar gael ei gadarnhau, wedi’i raglennu i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr, 2018.
• Eitem 18 sydd wedi’i raglennu i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr 2018.
• Eitemau 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28 a 29 sy’n ymwneud â’r Gyllideb ac wedi’u rhaglennu i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror, 2019.
• Eitemau 33 a 34 sydd wedi’u rhaglennu i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019.
Newidiadau eraill nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Waith a gyhoeddwyd -
• Adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr Achos Busnes Strategol ar gyfer ymestyn Ysgol y Graig a chau Ysgol Talwrn sy’n eitem ychwanegol ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 26 Tachwedd, 2018.
• Cadarnhawyd y bydd cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gwaith yn cael ei gynnal ar 15 Hydref, 2018 i drafod Trawsnewid Addysg a Strategaeth Foderneiddio Ysgolion Ynys Môn.
Penderfynwyd cadarnhau'r Flaen Raglen Waith wedi ei diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref, 2018 a mis Mai, 2019 ynghyd â’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.