Mater - cyfarfodydd

Medium Term Financial Strategy

Cyfarfod: 17/09/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol 2019/20 - 2021/22 pdf eicon PDF 786 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi cynnwys y Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol 2019/20 a chymeradwyo’r rhagdybiaethau ynddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2019/20 i 2021/22 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried. Mae’r cynllun yn nodi strategaeth cyllideb y Cyngor dros y tair blynedd nesaf ac yn nodi’r rhagdybiaethau a fydd yn cael eu cynnwys yn y broses o bennu’r gyllideb flynyddol.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei bod yn ofynnol i'r Cyngor sefydlu system gadarn i fonitro a rheoli ei gyllideb refeniw a bod y Cynllun Ariannol Tymor Canol yn elfen allweddol o'r system honno. Dywedodd y bydd rhaid i’r Cyngor wneud penderfyniadau anodd dros y tair blynedd nesaf ac nad oes tebygrwydd y bydd unrhyw lacio yn y toriadau cyllid y mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi eu hysgwyddo dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rhaglen gyni a gyflwynwyd gan Lywodraeth San Steffan wedi arwain at doriadau yn y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn ac mae hynny yn ei dro’n cael effaith ar y cyllid y mae cynghorau yng Nghymru’n ei dderbyn sy’n golygu fod cyllidebau cynghorau’n cael eu torri flwyddyn ar ôl blwyddyn. Er gwaetha’r ffaith bod lefelau cyllido awdurdodau lleol wedi lleihau mae’n rhaid i’r Cyngor barhau i ddarparu gwasanaethau i bobl Ynys Môn – ac mae’r gwasanaethau hynny’n cynnwys gwasanaethau ar gyfer pobl fregus a gwasanaethau y mae gofyn cyfreithiol arno eu darparu.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at Dabl 2 yn yr adroddiad sy’n rhoi dadansoddiad o’r arbedion a wnaed fesul gwasanaeth dros gyfnod o dair blynedd rhwng 2013/14 a 2018/19 o gymharu â’r Gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19. Mae’r Cyngor wedi gwneud cyfanswm o £21.748m o arbedion yn y cyfnod hwn ac er ei fod wedi ceisio gwarchod ysgolion, Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant, mae gwasanaethau rheng flaen eraill - Hamdden, Morol, Datblygu Economaidd, Tai, Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yn benodol - wedi ysgwyddo baich yr arbedion ac wedi darparu’r gyfran uchaf o arbedion o gymharu â’u cyllidebau net.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y Cynllun Ariannol Tymor Canol yn disgrifio sut mae’r Cyngor yn bwriadu delio gyda’r heriau ariannol sy’n ei wynebu dros y tair blynedd nesaf yn ogystal â chydbwyso ei gyllideb a pharhau i ddarparu gwasanaethau a chyflawni ei ddyletswyddau statudol. Cymeradwyodd y Cynllun i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Cynllun Ariannol Tymor Canol yn gosod y cyd-destun ariannol y bydd rhaid i’r Cyngor weithredu oddi fewn iddo yn ystod y 3 blynedd nesaf. Nid yw’r sefyllfa bresennol yn un galonogol, gyda’r Cyngor yn rhagweld, ar sail data Chwarter 1, y bydd gorwariant o tua £1.744m yn y gyllideb erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2018/19. Fodd bynnag, gellid dadlau fod y cyllidebau wedi cael eu tangyllido ac nad ydynt yn cwrdd â’r galw. Er gwaethaf hynny, rhaid taclo’r hyn sy’n creu gorwariant yn y gwasanaethau neu bydd cronfeydd wrth gefn yr Awdurdod yn cael eu herydu ymhellach, gyda phosibilrwydd y byddant yn disgyn o fod ychydig yn uwch na’r lleiafswm o £6.5m y mae’r Cyngor wedi cytuno arno i lai na  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6