Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell bod y Cyngor Llawn yn –
· Mabwysiadu’r Côd Ymddygiad i Swyddogion yn Atodiad 2 i’r adroddiad.
· Mabwysiadu’r Canllawiau Lleol ar y Côd Ymddygiad i Swyddogion yn Atodiad 3 yr adroddiad.
· Awdurdodi’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad, yn cynnwys unrhyw newidadau dilynol, er mwyn adlewyrchu’r ffaith fod Atodiadau 2 a 3 wedi cael eu mabwysiadu.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn ymgorffori newidiadau i’r Côd Ymddygiad i Swyddogion a’r Canllawiau Lleol ar y Côd Ymddygid i Swyddogion.
Adroddodd y Cadeirydd fod y Côd Ymddygiad a Chanllawiau presennol wedi cael eu diwygio mewn ymateb i argymhellion yr Adroddiad Archwilio Mewnol ar Ddiwylliant Moesegol ac mae’r dyfyniad perthnasol o’r adroddiad hwnnw wedi ei gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad. Diweddarwyd y Côd Ymddygiad ei hun er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth ac mae’r newidiadau yn cael eu dangos yn Atodiad 2. Diweddarwyd y canllawiau er mwyn eu gwneud yn haws eu defnyddio ac ymgorffori’r gofynion deddfwriaethol newydd ac mae copi o’r ddogfen yn Atodiad 3.
Ymgynghorwyd ar y Côd Ymddygiad a’r Canllawiau gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Penaethiaid Gwasanaeth a’r Pennaeth Archwilio a Risg; diwygiwyd y canllawiau gwreiddiol er mwyn ymgorffori sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw. Os bydd y Cyngor yn cymeradwyo’r Côd a’r Canllawiau byddant yn cael eu cyhoeddi ar Borth Polisi’r Cyngor ac yn cael eu cynnwys yn y drefn Derbyn Polisïau Corfforaethol ble mae’n ofynnol i swyddogion glicio i dderbyn ac ateb cwestiynau ynglŷn â’r dogfennau diwygiedig.
Penderfynwyd argymell bod y Cyngor Llawn yn -
• Mabwysiadu’r Côd Ymddygiad i Swyddogion sydd wedi ei gynnwys Atodiad 2 yr adroddiad.
• Mabwysiadu’r Canllawiau Lleol i’r Côd Ymddygiad Swyddogion sydd wedi ei gynnwys yn Atodiad 3 yr adroddiad.
• Awdurdodi’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad, yn cynnwys unrhyw newidiadau dilynol, er mwyn adlewyrchu’r ffaith fod Atodiadau 2 a 3 wedi cael eu mabwysiadu.