7 Cyllideb Cyfalaf 2019/20 PDF 589 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
• Argymell y rhaglen gyfalaf ganlynol ar gyfer 2019/20 i’r Cyngor llawn:- £’m
Cynlluniau Ymrwymedig a Ddygwyd Ymlaen o 2018/19 13.429
Buddsoddi mewn Asedau presennol
2.539
Ail-wynebu Priffyrdd 1.359
Ysgolion yr 21ain Ganrif 7.563
Cyfanswm Cynlluniau Cyfalaf y Gronfa Gyffredinol 24.890
Cynlluniau Cyfalaf CRT 13.110
Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig 2019/20 38,000
Cyllidir drwy:-
Gyllid a ddygwyd ymlaen o 2018/19 1.099
Grant Cyfalaf Cyffredinol 1.327
Benthyca â Chefnogaeth 2.026
Benthyca Di-gefnogaeth – Ysgolion yr 21ain Ganrif 1.847
Benthyca â Chefnogaeth– Ysgolion yr 21ain Ganrif 1.943
Grantiau Allanol 18.728
Grant Atgyweirio Priffyrdd 0.580
Benthyca Di-gefnogaeth CRT 1.000
Cyllid CRT 9.450
Cyfanswm Cyllid 38.000
· Bod £1.510m o gyllid heb ei ddefnyddio ar gyfer Gofal Ychwanegol Seiriol a Safleoedd Preswyl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei ryddhau yn ôl i’r Gronfa Gyfalaf Gyffredinol i gyllido’r canlynol –
· Elfen y Cyngor o’r cyllid ar gyfer y 10 bid cyfalaf newydd a nodir ym mharagraff 3.3 yr adroddiad (£797k)
· Prosiectau Buddsoddi i Arbed:- Effeithiolrwydd Ynni mewn Adeiladau Corfforaethol (£250k) a phrynu Cerbydau LPG a Thrydan newydd (£150k)
· Cadarnhau bod y grant ychwanegol ar gyfer ail-wynebu Priffyrdd (£580k) yn ychwanegol i’r isafswm buddsoddiad cyfalaf (£779k)
Cofnodion:
Cyflwynwyd ar gyfer argymhelliad gan y Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cynnwys cyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2019/20.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod angen i’r Pwyllgor Gwaith gynnig cyllideb gyfalaf ar gyfer 2019/20 a fydd wedyn yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror, 2019. Roedd yr adroddiad yn gosod allan y brif raglen gyfalaf ar gyfer 2019/20 ynghyd â bidiau am gynlluniau ychwanegol yr oedd angen arweiniad gan y Pwyllgor Gwaith yn eu cylch.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gyllideb gyfalaf graidd yn ymgorffori’r strategaethau cyfalaf blaenorol sy’n seiliedig ar fuddsoddi mewn T.G., asedau cerbydau ac adeiladau, gosod wynebau newydd ar ffyrdd a darparu grantiau cyfleusterau i’r anabl yn unol â’r gofyniad statudol. Yr un modd â’r gorffennol, nid oes fawr o newid yn lefel y cyllid cyfalaf craidd y mae’r Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru (yn cynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol a’r Benthyciadau gyda Chymorth heb eu neilltuo) sy’n golygu bod ei allu i wario yn gostwng bob blwyddyn gyda hynny’n cyfyngu ar yr hyn y gall y Cyngor ei wneud. Dros y blynyddoedd, mae’r Cyngor wedi defnyddio derbyniadau cyfalaf o werthu asedau nad oes eu hangen mwyach fel cyfraniad tuag at wariant cyfalaf. Fodd bynnag, ac eithrio’r safleoedd ysgolion sydd wedi cael eu rhyddhau o ganlyniad i’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - mae’r arian a geir o hynny wedi cael ei glustnodi tuag at adeiladu ysgolion newydd - ychydig iawn o asedau eraill sydd gan y Cyngor i’w gwerthu ac o ganlyniad, mae’r swm sydd ar gael o dderbyniadau cyfalaf i ariannu gwariant cyfalaf newydd yn llai o lawer nag yr oedd yn y gorffennol.
Cyfeiriodd y Swyddog at yr isod fel materion y mae angen arweiniad gan y Pwyllgor Gwaith ar gyfer symud ymlaen –
• Mewn cyllidebau cyfalaf yn y gorffennol, mae £1m o gyllid cyfalaf wedi cael ei glustnodi tuag at brosiect Gofal Ychwanegol Seiriol. Fodd bynnag, oherwydd y bydd y prosiect hwn yn awr yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl drwy’r Cyfrif Refeniw Tai, gellir yn awr ryddhau’r £1m a glustnodwyd i gyllido prosiectau cyfalaf eraill – mae angen penderfynu a dyllid rhyddhau’r arian hwn ai peidio.
• Yn Rhaglen Gyfalaf 2018/19, cafodd swm o £1.858m ei glustnodi ar gyfer y safleoedd parhaol a dros dro i Sipsiwn a Theithwyr gyda hynny’n cynnwys £0.450m o grant allanol ar gyfer y safle parhaol a £1.408m o adnoddau’r Cyngor ei hun. Bwriedir gwario £0.120m ar y cynllun yn 2018/19 gan olygu y bydd £1.288m o arian y Cyngor nad ydyw wedi ei ddefnyddio yn cael ei gario drosodd i 2019/20. Gan fod caniatâd cynllunio bellach wedi cael ei sicrhau ar gyfer y safle dros dro, mae £0.778m wedi cael ei gynnwys yn rhaglen gyfalaf ddrafft 2019/20 ar gyfer cwblhau’r prosiect hwn. Nid yw’r cynlluniau ar gyfer y safle parhaol wedi mynd rhagddynt mor gyflym – nid yw caniatâd cynllunio wedi cael ei roddi eto ac mae angen gwneud ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7