Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Nodi cynnwys yr adroddiad sy’n adolygu blwyddyn gyntaf premiwm y Dreth Gyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18 a hyd yn hyn am 2018/19.
• Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn ynglŷn â chodi Premiwm y Dreth Gyngor i 100% ar eiddo gwag tymor hir ac i 35% ar ail gartrefi. Gwneir hyn fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion Cyllideb 2019/20.
• Argymell y dylai £170k ychwanegol y flwyddyn y bydd y premiwm yn ei greu gael ei neilltuo am y ddwy flynedd nesaf (cyfanswm o £340k) i’r cynlluniau a fwriadwyd i gynorthwyo prynwyr tro cyntaf er mwyn cynyddu nifer yr ymgeiswyr y gellir eu cynorthwyo.
• Bod y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlygu’r angen i gael gwared â’r anghysondeb cyfreithiol lle mae modd trosglwyddo ail gartrefi yn y system Dreth Gyngor i drethi busnes.
Cofnodion:
Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar flwyddyn gyntaf premiwm y Dreth Gyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2019/18 a hyd yn hyn am 2018/19. Nod yr adroddiad oedd sefydlu a oedd y premiymau a ddefnyddiwyd yn 2017/18 (25% o gyfradd safonol y dreth gyngor ar gyfer cartref gwag tymor hir ac ail gartrefi) yn cwrdd ag amcanion y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Sir ac o ganlyniad, a oedd angen amrywio neu ddiddymu lefelau’r premiwm pan fydd y Cyngor Llawn yn gosod ei ofynion o ran Treth Gyngor 2019/20.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, mai nod Llywodraeth Cymru wrth roddi’r disgresiwn i awdurdodau lleol godi premiwm ar ben cyfraddau safonol y Dreth Gyngor oedd dod â chartrefi gwag tymor hir yn ôl i ddefnydd, ychwanegu at y cyflenwad o dai fforddiadwy a gwneud cymunedau lleol yn fwy cynaliadwy. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod yr holl opsiynau gwahanol ar gyfer gosod premiwm y Dreth Gyngor yn y dyfodol wedi cael eu hystyried yn y modd a amlinellwyd yn yr adroddiad gan gymryd i ystyriaeth nifer o ffactorau o ran gweithredu’r premiwm yn dilyn ei gyflwyno ym mis Ebrill, 2017. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at Atodiad A yn yr adroddiad sy’n rhoi manylion am yr amcangyfrif o’r incwm a fyddai ar gael yn sgil y gwahanol ganrannau premiwm ar gyfer cartrefi gwag tymor hir ac ail gartrefi ac at Atodiad B sy’n cynnwys gwybodaeth am y premiymau a osodwyd gan awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ble mae hynny’n hysbys. Gan gymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a ddarparwyd yn yr adolygiad o flwyddyn gyntaf y premiwm ac yn wyneb y ffaith bod nifer o gartrefi sydd wedi bod yn wag am amser maith yn parhau i fodoli ar draws yr Ynys – rhai y mae’r Cyngor yn awyddus i’w gweld yn dod yn ôl i ddefnydd - argymhellir y dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar godi’r premiwm ar gyfer ail gartrefi i 35% o gyfradd safonol y dreth gyngor ac i 100% ar gyfer cartrefi gwag tymor hir.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr adolygiad wedi dangos nad yw’r penderfyniad i godi premiam wedi cael effaith arwyddocaol ar nifer yr ail gartrefi neu’r cartrefi gwag tymor hir o ran sbarduno perchenogion sy’n gorfod talu’r premiwm i farchnata neu werthu eu heiddo neu geisio trosglwyddo eiddo i gyfraddau busnes er mwyn cael eu heithrio o’r premiwm ac nad yw gweithredu’r premiwm wedi cael effaith fawr ar sail y Dreth Gyngor. Er bod £13,988 yn parhau i fod yn ddyledus o ran premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer 2017/18, mae’r gyfradd gasglu ar gyfer 2017/18, sef 98.5%, yn dda iawn. Bydd cynyddu’r premiwm ar gyfer 2019/20 yn cynhyrchu mwy o incwm gan olygu y bydd modd dyrannu cyllid ychwanegol i gynlluniau a ddyluniwyd i gynorthwyo prynwyr tro cyntaf petai’r Cyngor yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, mae’r risgiau canlynol yn gysylltiedig â chynyddu'r premiwm -
• Gallai perchenogion ail ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5