6 Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 279 KB
6.1 FPL/2019/116 – St David’s, Stryd Athol, Cemaes
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
6.1 FPL/2019/116 - Cais llawn i newid defnydd hen eglwys i fod yn ddwy uned wyliau ynghyd ag addasiadau ac estyniadau yn St David’s, Stryd Athol, Cemaes
Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd ac er mwyn edrych ar y safle o gyfeiriad y ddau eiddo cyfagos, yn unol â’r cais.
Cofnodion:
6.1 FPL/2019/116 – Cais llawn i newid defnydd hen eglwys i fod yn ddwy uned wyliau ynghyd ag addasiadau ac estyniadau yn St David’s, Stryd Athol, Cemaes
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais wedi cael ei alw i mewn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd pryderon lleol am ddiogelwch ffyrdd, dyluniad y datblygiad arfaethedig a pherchnogaeth tir. Yn ogystal, derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau i’r cais. O ganlyniad, roedd y Swyddog o’r farn y byddai’n fuddiol i aelodau’r Pwyllgor weld y safle cyn ystyried y cais. Yn ychwanegol, pe bai’r Pwyllgor yn penderfynu ymweld â safle’r cais, mae preswylwyr dau eiddo cyfagos wedi gofyn i’r Pwyllgor gymryd y cyfle i edrych ar safle’r cais o’u heiddo nhw er mwyn deall yn well eu pryderon ynghylch y cynnig.
Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd ac er mwyn edrych ar y safle o gyfeiriad y ddau eiddo cyfagos, yn unol â’r cais.