Mater - cyfarfodydd

Applications that will be Deferred

Cyfarfod: 03/07/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 6)

6 Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 279 KB

6.1 FPL/2019/116 – St David’s, Stryd Athol, Cemaes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

6.1       FPL/2019/116 - Cais llawn i newid defnydd hen eglwys i fod yn ddwy uned wyliau ynghyd ag addasiadau ac estyniadau yn St David’s, Stryd Athol, Cemaes

 

Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd ac er mwyn edrych ar y safle o gyfeiriad y ddau eiddo cyfagos, yn unol â’r cais.

Cofnodion:

6.1       FPL/2019/116 – Cais llawn i newid defnydd hen eglwys i fod yn ddwy uned wyliau ynghyd ag addasiadau ac estyniadau yn St David’s, Stryd Athol, Cemaes

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais wedi cael ei alw i mewn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd pryderon lleol am ddiogelwch ffyrdd, dyluniad y datblygiad arfaethedig a pherchnogaeth tir. Yn ogystal, derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau i’r cais. O ganlyniad, roedd y Swyddog o’r farn y byddai’n fuddiol i aelodau’r Pwyllgor weld y safle cyn ystyried y cais. Yn ychwanegol, pe bai’r Pwyllgor yn penderfynu ymweld â safle’r cais, mae preswylwyr dau eiddo cyfagos wedi gofyn i’r Pwyllgor gymryd y cyfle i edrych ar safle’r cais o’u heiddo nhw er mwyn deall yn well eu pryderon ynghylch y cynnig.

 

Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd ac er mwyn edrych ar y safle o gyfeiriad y ddau eiddo cyfagos, yn unol â’r cais.