Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 03/07/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 502 KB

7.1 FPL/2018/42 – Stâd Llain Delyn, Gwalchmai

 

7.2 FPL/2019/31 – Tŷ Mawr, Pentraeth

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1  FPL/2018/42 – Cais llawn i godi 8 o anheddau marchnad agored a 2 o anheddau fforddiadwy, creu mynedfa newydd a ffordd i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Llain Delyn, Gwalchmai

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod cytundeb cyfreithiol yn cael ei lofnodi yn cynnwys yr ymrwymiadau fel y cawsant eu rhestru yn yr adroddiad. 

 

7.2  FPL/2019/31 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol yn uned gwyliau ynghyd â gosod tanc septig newydd yn Tŷ Mawr, Pentraeth

 

Penderfynwyd ail-gadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ac i awdurdodi’r Swyddogion i osod amodau ar y caniatâd, fel y bo’n briodol.

 

Cofnodion:

7.1       FPL/2018/42 –  Cais llawn i godi 8 o anheddau marchnad agored a 2 o anheddau fforddiadwy, creu mynedfa newydd a ffordd i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Llain Delyn, Gwalchmai

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn. Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 5 Mehefin, penderfynwyd cynnal ymweliad safle a chynhaliwyd yr ymweliad hwnnw ar 19 Mehefin, 2019.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Amlinellodd Sioned Edwards (o blaid y cais) natur y cais a, gan fod hwn yn gais am 10 uned, dywedodd fod ymgynghoriad cyn cyflwyno cais wedi’i gynnal a oedd yn cynnwys Aelodau Lleol, Cyngor Cymuned Trewalchmai, y cyhoedd, ac ymgyngoreion statudol. Codwyd pryderon am fynediad i safle’r cais drwy Stad Llain Delyn ac am yr effaith bosib ar breswylwyr eiddo cyfagos yn ystod y cyfnod adeiladu, yn arbennig mewn perthynas â cherbydau adeiladu yn defnyddio’r lôn breifat sy’n cysylltu safle’r cais â Stryd y Goron. Pwysleisiodd Ms Edwards fod Adran Briffyrdd y Cyngor wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r cynnig mewn perthynas â’r fynedfa â chydymffurfiaeth â safonau parcio a bod y swyddogion yn argymell fod Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu yn cael ei gyflwyno er mwyn cytuno ar lwybrau i’w ddilyn a threfniadau parcio. Yn dilyn hynny, bydd y datblygiad yn cael ei adeiladu yn unol â’r manylion y cytunwyd arnynt. Mae hyn yn dderbyniol i’r ymgeisydd a byddai hefyd yn sicrhau fod trefniadau mewn lle mewn perthynas â’r llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg ar hyd y lôn breifat. Fel rhan o’r cynnig, bydd cyfraniad ariannol yn cael ei wneud tuag at ddarpariaeth addysg gynradd yn yr ardal a bydd 2 dŷ fforddiadwy yn cael eu darparu, ynghyd â llecyn agored a fydd hefyd yn rhan o’r datblygiad. Mae’r cynnig yn dderbyniol i Swyddogion Cynllunio, gydag amodau, a’r gobaith yw y bydd y Pwyllgor yn ei gefnogi.

 

Siaradodd y Cynghorydd R. G. Parry, OBE, FRAgS fel Aelod Lleol i gadarnhau, er nad oedd ganddo ef na’r Cyngor Cymuned unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig, eu bod yn pryderu am yr effeithiau posib yn ystod y cyfnod adeiladau ac ynghylch mynediad i’r safle. Yn ystod yr ymweliad safle, byddai’r Pwyllgor wedi gweld bod dwy lôn wahanol yn rhoi mynediad i’r safle - y gyntaf drwy stad Llain Delyn a’r ail ar hyd y lôn o’r feddygfa. Roedd ef a’r Cyngor Cymuned yn gofyn am osod amod ar unrhyw ganiatâd cynllunio i gyfyngu mynediad i’r safle ar hyd y lôn yn arwain o’r feddygfa yn unig yn ystod y cyfnod adeiladu er mwyn osgoi unrhyw effaith neu beryglon posib o ganlyniad i gerbydau adeiladu’n teithio drwy stad dai Llain Delyn.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Cyngor Cymuned, yn ogystal â mynegi pryder am y fynedfa, wedi cwestiynu’r angen am ddatblygiad tai yn y lleoliad hwn a’r effaith bosibl ar seilwaith lleol drwy roi mwy o bwysau ar yr ysgol leol a’r feddygfa. Mae safle’r cais o fewn y ffin ddatblygu ac mae Gwalchmai yn ganolfan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7