Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 03/07/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 262 KB

11.1 FPL/2019/145 – Fferm Cefn Dderwen, Brynsiencyn

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1    FPL/2019/145 – Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid yn Fferm Cefn Dderwen, Brynsiencyn

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â thirlunio.

Cofnodion:

11.1    FPL/2019/145 – Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid yn Fferm Cefn Dderwen, Brynsiencyn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i “swyddog perthnasol” fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofyn o dan y paragraff dywededig.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynllun arfaethedig ar gyfer codi sied amaethyddol newydd a fydd yn ffurfio estyniad i’r sied bresennol ar y safle. Yn ogystal, mae’r ymgeisydd yn cynnig gostwng lefel y llawr er mwyn iddo fod yn gyson ar hyd y sied newydd. Gan y byddai’r cynnig yn cael ei leoli mewn ardal sydd yn gyfoethog o ran hanes, cynigir amod yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal asesiad archeolegol yn ystod y cyfnod adeiladu; yn ogystal, mae’r Adran Briffyrdd yn argymell amod yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu cyn cychwyn y gwaith. Gan fod lleoliad y cynnig yn agos i’r AHNE ac y byddai’r cynnig i’w weld o’r llwybr cyhoeddus yn erbyn y siediau presennol am gyfnod byr, argymhellir cynnwys amod ychwanegol i liniaru unrhyw effaith tymor byr a allai godi o ganlyniad i hynny. Dywedodd y Swyddog fod y Cyngor Cymuned wedi cadarnhau erbyn hyn nad oes ganddo sylwadau ar y cais ac argymhelliad y Swyddog yw caniatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones argymhelliad y Swyddog i gymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â thirlunio.