9 Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl yn y Gymuned - Ffioedd a Thaliadau 2020/21 PDF 421 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
• Y taliadau Gofal Cartref a amlinellir yn Nhabl 1 yr adroddiad.
• Y taliadau ar gyfer Gwasanaethau Teleofal fel yr amlinellir yn Nhabl 4 yr adroddiad.
Haen 1 – bydd pawb yn talu £47.97
Haen 2 a 3 – bydd pawb yn talu £95.55
• Y Taliadau Teleofal blynyddol fel yr amlinellir yn Nhabl 5 yr adroddiad
Gwasanaethau a Chynnal a Chadw-£114.12
Gwasanaethau yn unig - £73.76
Costau Gosod unwaith ac am byth - £45.63
• Cyfradd o £11.65 yr awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol
• Cynnal y taliad o £10 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodyn Glas a bathodynnau yn lle rhai sydd wedi eu colli neu eu dwyn fel yr amlinellwyd.
• Cynyddu’r ffi ar gyfer prynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol 3% i £34.18
Cofnodion:
Cyflwynwyd, er ystyriaeth, adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned ar gyfer 2020/21.
Dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol bod y taliadau ar gyfer gwasanaethau gofal cartref yn cael eu hadolygu’n flynyddol i gyd-fynd ag adolygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau budd-daliadau a phensiynau. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned ar gyfer 2020/21, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
• Y taliadau Gofal Cartref a amlinellir yn Nhabl 1 yr adroddiad.
• Y taliadau ar gyfer Gwasanaethau Teleofal fel yr amlinellir yn Nhabl 4 yr adroddiad.
Haen 1 – bydd pawb yn talu £47.97
Haen 2 a 3 – bydd pawb yn talu £95.55
• Y Taliadau Teleofal blynyddol fel yr amlinellir yn Nhabl 5 yr adroddiad
Gwasanaethau Cynnal a Chadw-£114.12
Gwasanaethau yn unig - £73.76
Gosod unwaith ac am byth - £45.63
• Graddfa ar gyfer Taliadau Uniongyrchol o £11.65 yr awr
• Cynnal y taliad o £10 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodyn Glas a rhai yn lle rhai sydd wedi eu colli neu eu dwyn fel yr amlinellwyd.
• Cynyddu’r ffi ar gyfer prynu gwasanaethau gofal dydd gan gartrefi preswyl annibynnol 3% i £34.18