10 Cartrefi'r Awdurdod Lleol ar gyfer Pobl Hyn - Pennu'r Ffi Safonol PDF 425 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Er bod y Cyngor yn cydnabod y costau sy’n gysylltiedig â gofal preswyl, nid yw cost gwirioneddol darparu’r gwasanaeth wedi ei adlewyrchu yn y tâl a godir ar drigolion.
• Yn unol â’r cynigion arbedion a wneir i ddiddymu’r cymhorthdal a roddir i rai sy’n hunangyllido rhwng 2019-20 a 2021-22 bod y cynnydd ar gyfer y rhai hynny sy’n cyfrannu tuag at gost gofal yn cael ei osod ar 3% ynghyd â chyfran pob defnyddiwr o draean y cymhorthdal a roddir i’r rhai sy’n hunangyllido.
• Bod y ffi ar gyfer 2020-21 felly yn cael ei osod ar £722.21 (£664.11 + 3% + (1/2 x £76.35).
Cofnodion:
Cyflwynwyd, er ystyriaeth, adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i bennu lefel Ffi Safonol ar gyfer cartrefi’r awdurdod lleol ar gyfer pobl hŷn am y flwyddyn Ebrill 2020 i Fawrth 2021.
Cyflwynodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad yn amlinellu’r sail ar gyfer cyfrifo’r ffi safonol ac yn amlygu bod costau’r holl gartrefi wedi cael eu cyfuno er mwyn cyfrifo ffi safonol gyfartalog ar gyfer y cartrefi, yn unol â’r canllawiau cenedlaethol. Fodd bynnag, unwaith eto wrth gyfrifo’r Ffi Safonol ar gyfer 2020/21 ni chynhwyswyd Garreglwyd yn y ffigyrau gan fod y cartref wedi cael ei ailfodelu a’i fod yn darparu gwasanaeth arbenigol erbyn hyn. Ar sail y cyfrifiadau, a chan gynnwys chwyddiant, amcangyfrifir bod y gost fesul preswylydd ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2021 yn £760.38.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod y ffi a gynigir yn adlewyrchu penderfyniad y Pwyllgor Gwaith i gynyddu ffioedd yn unol â gwir gost y ddarpariaeth yn raddol dros gyfnod o 3 blynedd a thrwy hynny osgoi effaith cynnydd sylweddol yn y ffi ar breswylwyr h.y. o £664.11 yn 2019/20 i £760.38 yn 2020/21.
Penderfynwyd –
• Er bod y Cyngor yn cydnabod y costau sy’n gysylltiedig â gofal preswyl, nid yw cost wirioneddol darparu’r gwasanaeth wedi ei adlewyrchu yn y tâl a godir ar drigolion.
• Yn unol â’r cynigion arbedion a wneir i ddiddymu’r cymhorthdal a roddir i rai sy’n hunangyllido rhwng 2019-20 a 2021-22, bod y cynnydd ar gyfer y rhai hynny sy’n cyfrannu tuag at gost gofal yn cael ei osod ar 3% ynghyd â chyfran pob defnyddiwr o draean y cymhorthdal a roddir i’r rhai sy’n hunangyllido.
• Bod y ffi ar gyfer 2020-21 felly yn cael ei osod ar £722.21 (£664.11 + 3% + (1/2 x £76.35).