Mater - cyfarfodydd

Medium Term Financial Strategy and Budget 2020/21

Cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 12)

12 Y Cynllun Ariannol Tymor Canol a'r Gyllideb ar gyfer 2020/21 pdf eicon PDF 968 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

           Nodi’r cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol ar y gyllideb a’r atborth a gafwyd ynddynt fel yr amlinellir yn Adran 2, Atodiad 1 ac yn Atodiad 2;

           Cytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor gan gynnwys y cyllid diwygiedig mewn ymateb i’r pwysau ar y gyllideb a’r arbedion arfaethedig fel y dangosir nhw yn Adran 8, Atodiad 1 ac yn Atodiad 3 gyda’r eithriad o gynyddu ffioedd parcio ceir mewn safleoedd trefol a fydd yn aros yr un peth heblaw am y raddfa 50c a ddiddymir gan wneud isafswm cost o £1. 

           Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai’r Cyngor fod yn gweithio i sicrhau bod o leiaf £7.1m yn y balansau cyffredinol;

           Nodi’r sylwadau a wnaed gan y Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon a wnaed fel y cânt eu hamlinellu yn Adran 6, Atodiad 1;

           Argymell cyllideb net ar gyfer y Cyngor Sir o £142.146m a chynnydd yn lefel y Dreth Gyngor felly o 4.5%, (£56.16 – Band D), gan nodi y bydd penderfyniad ffurfiol, yn cynnwys y Praeseptau i Heddlu Gogledd Cymru a’r Cynghorau Cymuned, yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 10 Mawrth, 2020;

           Awdurdodi’r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau a all fod yn angenrheidiol cyn cyflwyno’r cynigion terfynol i’r Cyngor;

           Cytuno y bydd unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau a arweinir gan y galw yn ystod y flwyddyn ariannol yn gallu tynnu ar gyllid o’r gyllideb gyffredinol ar gyfer digwyddiadau annisgwyl;

           Gofyn i’r Cyngor awdurdodi’r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o’r balansau cyffredinol os bydd y gyllideb ar gyfer digwyddiadau annisgwyl wedi’i hymrwymo’n llawn yn ystod y flwyddyn;

           Dirprwyo i’r Swyddog Adran 151 y pŵer i ryddhau hyd at £50k o’r gronfa digwyddiadau annisgwyl ar gyfer unrhyw un eitem. Ni chaniateir cymeradwyo unrhyw eitem dros £50k heb gael caniatâd ymlaen llaw gan y Pwyllgor Gwaith;

           Cymeradwyo bod y Premiwm Treth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn parhau i fod yn 35% ac yn parhau i fod yn 100% ar gyfer tai gwag.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ceisio barn y Pwyllgor Gwaith ar Gyllideb Refeniw'r Cyngor a’r Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 yn deillio o hynny; y Strategaeth Ariannol Tymor Canol a ddiweddarwyd a defnyddio arian unwaith am byth i gefnogi’r gyllideb.

 

Ar yr adeg hon, datganodd yr Aelod Portffolio Cyllid ddiddordeb personol ond heb fod yn rhagfarnus mewn perthynas â Phremiwm y Dreth Gyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, er bod y Cyngor yn croesawu’r arian ychwanegol sydd ar gael fel rhan o’r setliad refeniw ar gyfer 2020/21, mae’r rhagolygon ariannol yn parhau i fod yn heriol. Yn ogystal, mae’n anodd dirnad sut y cafodd y fformiwla cyllido ei chymhwyso o ystyried bod cymaint o amrywiaeth yn lefel y cynnydd y mae cynghorau yng Nghymru wedi’i derbyn.

 

Mae cynnydd o 3.8% yn setliad Ynys Môn. Wrth gyfeirio at yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion drafft y gyllideb refeniw, a oedd yn fwy cyfyngedig eleni oherwydd bod yr amserlen wedi cael ei thocio, dywedodd yr Aelod Portffolio, er bod mwyafrif o blaid buddsoddi yn y Gwasanaethau Oedolion mewn ymateb i’r cynnydd yn y galw; diogelu cyllidebau ysgolion a gweithredu’r arbedion arfaethedig, roedd llai yn cefnogi cynnydd o rhwng 4.5% i 5% yn y Dreth Gyngor, gyda 69.88% o ymatebwyr yn gwrthwynebu’r fath gynnydd. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod gofyn cyfreithiol ar yr Awdurdod i lunio cyllideb gytbwys.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad oedd gwahaniaeth rhwng y setliad ariannol terfynol a gadarnhawyd ar 25 Chwefror, 2020 a’r setliad dros dro o £101.005m ar gyfer Ynys Môn a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2019 ac yr adroddwyd arno i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2020. Fodd bynnag, roedd y setliad terfynol yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a oedd yn ceisio egluro pam fod lefel y cynnydd yn y setliad yn wahanol o un awdurdod i’r llall. Ar ôl cymryd y setliad terfynol i ystyriaeth, byddai angen £41.172m o arian Treth Gyngor i gyllido gofynion cyllideb o £142.177m, sydd yn cyfateb i gynnydd o 4.58% yn y Dreth Gyngor.

 

Mae’r gyllideb arfaethedig yn cynnwys nifer o ragdybiaethau o ran lefelau incwm a gwariant tebygol yn ystod y blynyddoedd nesaf ac o ganlyniad mae nifer o risgiau cynhenid yn y gyllideb arfaethedig. Amlygir y risgiau hyn yn adran 5 yr adroddiad a’r prif risgiau yw dyfarniad cyflog staff a’r galw am wasanaethau. Cytunwyd ar ddyfarniad cyflog athrawon hyd at fis Medi 2020 ac mae’r swm angenrheidiol wedi’i gynnwys yn y cynigion ar gyfer y gyllideb. Fodd bynnag, ni chytunwyd ar ddyfarniad cyflog o fis Medi 2021 ymlaen ac er y caniatawyd ar gyfer cynnydd o 2%, mae’n bosib na fydd hyn yn ddigonol. Mae mwy o risg yn gysylltiedig â’r dyfarniad cyflog ar gyfer staff nad ydynt yn athrawon fydd yn cael ei weithredu o 1 Ebrill 2020 gan nad oes cytundeb yn ei gylch hyd yma. Mae’r Cyflogwyr wedi cynnig cynnydd o 2% ond mae’r Undebau’n gofyn am gynnydd o 10%. Mae arian ychwanegol wedi’i gynnwys yn y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12