14 Cyllideb Gyfalaf Derfynol Arfaethedig ar gyfer 2020/21 PDF 356 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell y Rhaglen Gyfalaf ganlynol ar gyfer 2020/21 i’r Cyngor Llawn –
£
Cynlluniau a ddygwyd ymlaen o 2019/20 5,829
Adnewyddu/Amnewid Asedau 6,192
Prosiectau Cyfalaf Unwaith ac am Byth
Newydd 2,174
Mân-ddaliadau a gyllidir o dderbyniadau
Cyfalaf 100
Ysgolion yr 21ain Ganrif 2,755
Cyfrif Refeniw Tai 20,255
Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf Argymhellir
ar gyfer 2020/21 37, 305
Cyllidir drwy:
Grant Cyfalaf Cyffredinol 2,165
Benthyca â Chefnogaeth Cyffredinol 2,364
Benthyca â Chefnogaeth a ddygwyd ymlaen
o 2019/20 1,034
Derbyniadau Cyfalaf 245
Arian Cyfalaf Wrth Gefn 500
Benthyca â Chefnogaeth – Ysgolion yr
21ain Ganrif 721
Benthyca Digefnogaeth – Ysgolion yr
21ain Ganrif 1,145
Arian Wrth Gefn y CRT a gwarged
y flwyddyn 14,228
Benthyca Digefnogaeth CRT 250
CRT a ddygwyd ymlaen o 2019/20 3,117
Grantiau Allanol 5,782
Cyllid y Cyngor a ddygwyd ymlaen
o 2019/20 5,754
Cyfanswm Cyllid Cyfalaf ar gyfer 2020/21 37,305
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r gyllideb gyfalaf derfynol arfaethedig ar gyfer 2020/21.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod y gyllideb gyfalaf arfaethedig o £37.305m yn fuddsoddiad cyfalaf yn nyfodol Ynys Môn ac y dylid edrych arni yn y ffordd honno. Yn yr un modd â’r gyllideb refeniw, ymgynghorwyd ar y gyllideb gyfalaf ddrafft ar gyfer 2020/21 ac adlewyrchir y nifer fechan o sylwadau a dderbyniwyd yn yr adroddiad.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y gyllideb gyfalaf derfynol arfaethedig ar gyfer 2020/21 yr un fath â’r gyllideb ddrafft dros dro a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Ionawr 2020, ac eithrio diweddaru ffigyrau ar gyfer llithriadau o 2019/20.
Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Owain Jones adroddiad o gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 27 Chwefror a chadarnhaodd, ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod mewn perthynas â’r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020/21 gan gynnwys canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a chadarnhad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad oedd unrhyw newid yn y gyllideb gyfalaf ac eithrio bod y ffigyrau wedi eu diweddaru i gynnwys llithriadau o 2019/20, penderfynodd y Pwyllgor ailddatgan ei fod yn argymell y gyllideb gyfalaf arfaethedig fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor ar 13 Ionawr ac a ddiweddarwyd i gynnwys llithriadau.
Penderfynwyd argymell y Rhaglen Gyfalaf Ganlynol ar gyfer 2020/21 i’r Cyngor Llawn -
£
Cynlluniau a ddygwyd ymlaen o 2019/20 5,829
Adnewyddu/Amnewid Asedau 6,192
Prosiectau Cyfalaf Unwaith ac am Byth Newydd 2,174
Mân-ddaliadau a gyllidir o dderbyniadau cyfalaf 100
Ysgolion 21ain Ganrif 2,755
Cyfrif Refeniw Tai 20,255
Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf a Argymhellir
Ar gyfer 2020/21 37,305
Cyllidir Gan:
Grant Cyfalaf Cyffredinol 2,165
Benthyca â Chefnogaeth Cyffredinol 2,364
Benthyca â Chefnogaeth a ddygwyd ymlaen 1,034
Derbyniadau Cyfalaf 245
Arian Cyfalaf Wrth Gefn 500
Benthyca â Chefnogaeth Ysgolion 21ain Ganrif 721
Benthyca Digefnogaeth Ysgolion 21ain Ganrif 1,145
Arian Wrth Gefn y CRT a gwared y flwyddyn 14,228
Benthyca Digefnogaeth CRT 250
CRT a ddygwyd ymlaen o 2019/20 3,117
Grantiau Allanol 5,782
Arian 2019/20 a ddygwyd ymlaen 5,754
Cyfanswm Arian Cyfalaf 2020/21 37,305
Ar ran y Pwyllgor Gwaith, diolchodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio Cyllid i staff Gwasanaeth Cyllid y Cyngor am eu gwaith wrth baratoi’r adroddiadau ar gyfer y cyfarfod hwn.