Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Strategy 2020/21

Cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 7)

7 Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn a nodi’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2020/21 ac anfon y Datganiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau pellach. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu arferion gorau yn unol â Chôd Ymarfer CIPFA ar Reoli’r Trysorlys a chadarnhaodd, mewn perthynas â diweddaru’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys, nad oes unrhyw newidiadau’n cael eu hargymell i egwyddorion craidd a pholisïau Datganiad 2019/20.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi craffu ar y Datganiad yn ei gyfarfod ym mis Chwefror 2020 a chafodd ei dderbyn heb wneud unrhyw sylwadau pellach arno. I grynhoi, nid oes unrhyw newid yn ymagwedd y Cyngor at fenthyca gan olygu na fydd ond yn benthyca pan fod angen gwneud hynny, a bydd yn benthyca’n fewnol lle bo hynny’n ymarferol h.y. bydd yn defnyddio’r arian parod sydd ganddo. Nid yw’r Cyngor yn benthyca mwy nag y mae ei angen, na chyn bod angen gwneud hynny dim ond er mwyn elwa o fuddsoddi’r symiau ychwanegol a fenthycir. O ran buddsoddi, mae’r Strategaeth Rheoli Trysorlys yn parhau i gefnogi ymagwedd ofalus yn seiliedig ar sicrhau diogelwch buddsoddiadau fel y brif ystyriaeth ac o’r herwydd ni fydd y Cyngor ond yn buddsoddi mewn gwrthbartïon sydd â lefel uchel iawn o deilyngdod credyd, gan gynnwys awdurdodau lleol eraill, am gyfnod byr gan yr ystyrir eu bod yn fuddsoddiadau risg isel. Mae’n annhebygol y bydd dyledion yn cael eu had-dalu’n gynnar gan fod y gosb am ad-dalu dyledion yn gynnar yn uwch na’r arbedion a wneir o ran taliadau llog. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd angen i’r Cyngor fenthyca mwy yn ystod y blynyddoedd nesaf er mwyn diwallu anghenion y rhaglen foderneiddio ysgolion wrth iddi ddatblygu a hefyd er mwyn ariannu gwariant y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2020/21 ac anfon y Datganiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb wneud unrhyw sylwadau pellach.