8 Arferion Rheoli Trysorlys (TMP) PDF 839 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Nodi cynnwys yr adroddiad eglurhaol.
• Cymeradwyo’r Arferion Rheoli Trysorlys Diwygiedig (ARhT) sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad 2 yr adroddiad ac argymell yr ARhT i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 10 Mawrth, 2020.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori Arferion Rheoli Trysorlys diwygiedig y Cyngor.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu arferion gorau yn unol â Chôd Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli’r Trysorlys. Mae’r Côd yn argymell bod y Cyngor yn dogfennu ei weithdrefnau rheoli trysorlys ar ffurf Arferion Rheoli Trysorlys.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod yr Arferion Rheoli Trysorlys, fel y’u dogfennwyd, yn dangos sut mae’r Cyngor yn rheoli ei weithgareddau trysorlys. Cwblhawyd a chymeradwywyd yr Arferion Rheoli Trysorlys presennol yn 2016. Cawsant eu hadolygu a’u diweddaru i gynnwys adran (TMP13) ar fuddsoddiadau’r Cyngor nad ydynt yn fuddsoddiadau trysorlys, yn unol â gofynion y Côd CIPFA diwygiedig. Buddsoddiadau’r Cyngor nad ydynt yn fuddsoddiadau trysorlys yw’r eiddo buddsoddi a reolir gan y Gwasanaeth Eiddo ac sy’n cynhyrchu incwm rhent ychwanegol i’r Cyngor ar adeg pan mae arian gan y Llywodraeth yn lleihau. Maent yn cynnwys eiddo manwerthu, swyddfeydd ac unedau masnachol. Mae cyfran helaeth o’r portffolio yn unedau masnachol. Bu i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu ar yr Arferion Rheoli Trysorlys, a’u cymeradwyo, yn ei gyfarfod ar 11 Chwefror 2020.
Penderfynwyd –
• Nodi cynnwys yr adroddiad eglurhaol.
• Cymeradwyo’r Arferion Rheoli Trysorlys Diwygiedig (ARhT) sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad 2 yr adroddiad ac argymell yr ARhT i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 10 Mawrth, 2020.