Mater - cyfarfodydd

DRAFT STATEMENT OF ACCOUNTS 2019/20

Cyfarfod: 21/07/2020 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (Eitem 4)

4 Datganiad o'r Cyfrifon Drafft 2019/20 pdf eicon PDF 15 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Penderfyniad:

Ar ôl ystyried yr adroddiad, penderfynwyd nodi’r prif ddatganiadau ariannol nad oedd wedi’u harchwilio ar gyfer 2019/20.

 

CAMAU YCHWANEGOL A GYNIGIR:

 

           Cyflwyno’r Cod Llywodraethu Lleol i'r Pwyllgor maes o law cyn iddo gael ei adolygu a'i ddiweddaru.

           Bod y Rheolwr Rhaglenni, Cynllunio Busnes a Pherfformiad yn gofyn i'r Prif Weithredwr / yr Uwch-dîm Arweinyddiaeth ystyried priodoldeb gwahodd dau Aelod Lleyg y Pwyllgor i'r sesiynau briffio misol i bob aelod ar ddatblygiadau mawr.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 oedd yn ymgorffori Datganiad cyn-archwiliad drafft y Cyfrifon am flwyddyn ariannol 2019/20 ynghyd â'r Datganiad Llywodraethu drafft am 2019/20, i’r Pwyllgor eu hystyried.

 

Cyn cyflwyno’r Datganiad Cyfrifon draft, diolchodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i dîm Cyfrifon y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith yn cwblhau'r cyfrifon drafft yn llwyddiannus, yn unol â'r dyddiad cau statudol a ddygwyd ymlaen, ers y llynedd, i’r 15fed o Fehefin. Roedd tasg eleni yn arbennig o anodd oherwydd amgylchiadau gyda mwyafrif y staff yn gweithio o bell o'u cartrefi oherwydd y pandemig, yn ogystal â chyfrannu at ymateb argyfwng Covid-19. Roedd y Datganiad Cyfrifon wedi'i baratoi a'i nodi yn unol â rheoliadau ac arferion cyfrifyddu ac fe'i cynhyrchid yn flynyddol i roi gwybodaeth am gyllid y Cyngor a sut roedd yn gwario arian cyhoeddus i etholwyr, trethdalwyr lleol, Aelodau'r Cyngor, gweithwyr a phartïon eraill â diddordeb. Roedd y Datganiad yn ddogfen hir a chymhleth, yn nodi gwybodaeth am berfformiad ariannol y Cyngor mewn ffordd a ragnodid gan reoliadau cyfrifyddu ac, er gwaethaf tynnu sylw CIPFA at y ffaith bod angen ei symleiddio, roedd y fformat wedi aros yr un fath â'r llynedd.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at yr Adroddiad Naratif Esboniadol a gyflwynai wybodaeth gefndirol am Gyngor Sir Ynys Môn a gosod ei berfformiad ariannol yng nghyd-destun cyflawniadau, materion, heriau a risgiau allweddol y flwyddyn. Yn 2019/20, nododd y Cyngor danwariant o £0.308k yn erbyn gweithgaredd a gynlluniwyd o £135.210m (cyllideb net) a chyflawnodd £2.205m o arbedion. Roedd y tabl yn 3.4.1 yn adlewyrchu'r gyllideb derfynol ar gyfer 2019/20 ac incwm a gwariant gwirioneddol yn ei herbyn. Golygodd effaith y tanwariant bod y Cyngor wedi cynyddu ei gronfeydd wrth gefn cyffredinol o £0.308k i £7.060m sef 4.9% o'i gyllideb refeniw net am 2020/21. Tanwariodd y Gyllideb Gyfalaf yn ystod y flwyddyn gyda chyfanswm y gwariant yn £30.015m yn erbyn cyfanswm y Gyllideb Gyfalaf o £43.907m ar gyfer 2019/20. Mae'r prif ddatganiadau ariannol dilynol yn cynnwys yr isod –

 

           Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (tudalen 21 y cyfrifon) - yn dangos cost darparu gwasanaethau'r Awdurdod yn ystod y flwyddyn, yn unol ag arferion cyfrifyddu yn hytrach na'r swm i'w ariannu o drethiant, a dyna pam y ffigur - gwarged o £ 28.161m. Roedd y swm y gellid ei godi ar y dreth gyngor yn gofyn am nifer o addasiadau a eglurid yn Nodyn 1a (Nodyn ar Ddadansoddiad Gwariant a Chyllid 2019/20) a Nodyn 7 (Addasiadau rhwng sail cyfrifyddu a sail ariannu dan reoliadau). Roedd CIES hefyd yn dangos enillion neu golledion o ran asedau a rhwymedigaethau'r awdurdod, gan gynnwys atebolrwydd pensiwn a newidiadau o ganlyniad i ailbrisio asedau.

           Crynodeb o'r Symudiadau yng Nghronfeydd wrth Gefn y Cyngor (tudalen 23 y cyfrifon) – oedd yn dangos y symudiad yn y flwyddyn ar y gwahanol gronfeydd wrth gefn oedd gan y Cyngor ac a ddadansoddwyd rhwng cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio ac na ellid eu defnyddio. Roedd Balans Cronfa Gyffredinol y Cyngor  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4