3 Adroddiad Blynyddol ar Reoli'r Trysorlys 2019/20 PDF 333 KB
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. |
|
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Nodi y bydd y ffigurau alldro yn yr adroddiad yn parhau i fod yn rhai dros dro nes bod gwaith archwilio Datganiad Cyfrifon 2019/20 wedi'i gwblhau a'i lofnodi. Byddir yn nodi, fel y bo'n briodol, unrhyw addasiadau sylweddol sy'n deillio o'r ffigurau a gynhwysir yn yr adroddiad.
• Nodi dangosyddion darbodus dros dro a rhai’r trysorlys am 2019/20 yn yr adroddiad.
• Derbyn adroddiad yr Adolygiad Blynyddol ar Reoli'r Trysorlys am 2019/20, a'i argymell i'r Pwyllgor Gwaith heb wneud sylw.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 15 yn ymgorffori'r Adolygiad ar Reoli’r Trysorlys am 2019/20, i'r Pwyllgor ei ystyried. Rhoes yr adolygiad grynodeb o weithgareddau trysorlys y Cyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20 gan gynnwys ei ddull o fenthyca a buddsoddi.
Tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 sylw at yr isod –
• Y cyd-destun allanol a'r ffactorau ehangach oedd wedi dylanwadu ar benderfyniadau o ran rheoli’r trysorlys, gan gynnwys cyflwr economi'r Deyrnas Unedig; perfformiad cyfradd llog yn ystod y flwyddyn; yr ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit - yn enwedig Brexit heb gytundeb - ac effaith Covid-19.
• Roedd y ffactorau mewnol fel a ganlyn:
• Perfformiad gwariant cyfalaf - roedd y tabl yn 3.1 yn dangos y gwir wariant cyfalaf a sut yr ariannwyd hyn. Roedd gwariant cyfalaf gwirioneddol y Gronfa Gyffredinol a ariannwyd trwy fenthyca yn £2m yn erbyn rhagamcan o £7m ar ddechrau'r flwyddyn. Y prif reswm am y tanwariant oedd y tanwariant mawr ar y prosiectau fel y'u rhestrwyd ac, yn benodol, y £4.547m a danwariwyd ar raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gafodd ei ohirio yn sgil rhagor o ymgynghori ar y cynlluniau yn ardal Llangefni.
• Cronfeydd wrth gefn a balansau arian parod - roedd balansau arian parod y Cyngor yn cynnwys adnoddau refeniw a chyfalaf ac arian y llif arian. Nodwyd adnoddau arian craidd y Cyngor yn y tabl yn 3.2 yr adroddiad ac roeddynt yn cynnwys Cronfa Wrth Gefn Gyffredinol y Cyngor a gynyddodd o £5.912m ar 31 Mawrth, 2019 i £7.060m ar 31 Mawrth, 2020. Cyfanswm cronfeydd wrth gefn a darpariaethau defnyddiadwy'r Cyngor oedd £31.124m ar 31 Mawrth, 2020 (o'i gymharu â £ 30.078m ar 31 Mawrth, 2019).
• Benthyciadau a gymerodd y Cyngor - ym mis Mawrth, 2020, cymerodd y Cyngor un benthyciad tymor byr gyda'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus i ariannu gwariant cyfalaf a gynlluniwyd hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ar 18 Mawrth, 2020, cymerodd y Cyngor fenthyciad o £10m (heb ei gynllunio ar ddechrau'r flwyddyn) gyda chyfradd llog o 2.05% i sicrhau bod ganddo ddigon o arian parod yn y banc yn mynd i mewn i argyfwng Covid 19, yn wyneb yr ansicrwydd ynghylch y cyfnod hwnnw.
• Benthyca gros a'r Gofyniad Cyllido Cyfalaf (GCC) – roedd y benthyciad gros o £139.2m ar 31 Mawrth, 2020, yn uwch na'r GCC ar 31 Mawrth, 2019 ond roedd o fewn y GCC a ragwelwyd am y ddwy flynedd ganlynol (cyfeirir at hyn yn nhabl 3.3.1). Roedd y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn wedi rhagori ar y GCC oherwydd y benthyciad o £10m a gymerwyd ym mis Mawrth, 2020. Hefyd, roedd y pandemig byd-eang wedi golygu bod gwariant cyfalaf ym mis olaf y flwyddyn yn llai na'r disgwyl gan arwain at fenthyciad allanol oedd yn fwy na'r CGG. Roedd hyn am y tymor byr gan y byddai lefel y benthyca allanol yn syrthio’n is na'r CGG yn 2020/21, wrth i fenthyciadau allanol gael eu had-dalu a mynd i wariant cyfalaf.
• Benthyca mewnol - ar ddechrau'r flwyddyn, ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3