Mater - cyfarfodydd

Capital Budget Monitoring Report - Quarter 1, 2020/21

Cyfarfod: 28/09/2020 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1, 2020/21 pdf eicon PDF 379 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

           Nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2020/21 yn Chwarter 1.

           Cymeradwyo £49,000 o gyllid cyfatebol ychwanegol ar gyfer cynllun Lliniaru Llifogydd Pentraeth, yn unol â pharagraff 3.1.1 yr adroddiad. Mae’r gost ychwanegol o ganlyniad uniongyrchol i Covid-19 sydd wedi cynyddu costau’r contract i gwblhau’r cynllun.

           Cymeradwyo £39,000 o gyllid cyfatebol ychwanegol ar gyfer cynllun Lliniaru Llifogydd Biwmares, yn unol â pharagraff 3.1.1 yr adroddiad. Mae’r gost ychwanegol o ganlyniad uniongyrchol i Covid-19 sydd wedi cynyddu costau’r contract i gwblhau’r cynllun.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer chwatrer cyntaf blwyddyn ariannol 2020/21

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y gwariant gwirioneddol hyd at 30 Mehefin 2020 yn £1.705m yn erbyn gwariant a broffiliwyd o £3.315m ac na ddylai hynny fod yn syndod oherwydd bod cyfyngiadau cloi wedi dod i rym yn ystod y cyfnod gan olygu na allai prosiectau fwrw ymlaen fel y cynlluniwyd yn ystod yr amser hwn. Beth bynnag, mae nifer o gynlluniau cyfalaf wedi eu pwysoli i wario yn rhan olaf y flwyddyn ariannol ac mae'r cyllid sydd wedi'i glustnodi ar gyfer cynlluniau yn ddiogel. Gellir gweld effaith y pandemig hefyd yn y  costau ychwanegol a gafwyd ar gynlluniau Lliniaru Llifogydd Pentraeth a Biwmares sydd angen £49k a £39k o arian cyfatebol ychwanegol gan y Cyngor ac y gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo.

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod gan y Cyngor gronfa arian wrth gefn a neilltuwyd i helpu i ariannu ei raglen gyfalaf ac fe'i defnyddir i gyfrannu'r arian cyfatebol ychwanegol sydd raid wrtho.  Y gobaith yw y bydd pob prosiect cyfalaf yn gwneud cynnydd yn erbyn gwariant yn ystod gweddill y flwyddyn ac eithrio'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion sydd wedi'i seibio hyd nes y ceir penderfyniad terfynol ar gyfluniad ysgolion yn ardal Llangefni a lle nad oes disgwyl llawer o wariant , a chynlluniau datblygu tai newydd o dan gyllideb y CRT lle mae'n annhebygol y bydd gwariant yn adfer yn llawn am weddill y flwyddyn er gwaethaf bod gwaith yn ailddechrau.