Mater - cyfarfodydd

Annual Treasury Management Review 2019/20

Cyfarfod: 28/09/2020 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 9)

9 Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2019/20 pdf eicon PDF 371 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

           Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad hwn yn parhau’n rhai dros dro hyd nes y bydd yr archwiliad o ddatganiad Cyfrifon 2019/20 wedi’i gwblhau a’i lofnodi; adroddir fel sy’n briodol ar unrhyw addasiadau sylweddol dilynol i’r ffigyrau a gynhwysir yn yr adroddiad;

           Nodi dangosyddion Pwyllog a Thrysorlys dros dro 2019/20 yn yr adroddiad;

           Trosglwyddo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2019/20 i gyfarfod nesaf y Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau ychwanegol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 yn cynnwys yr Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2019/20.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid ei bod yn ofynnol i'r Cyngor, yn ôl rheoliadau a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, gynhyrchu Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol o weithgareddau a'r dangosyddion darbodus a thrysorlys gwirioneddol ar gyfer 2019/20. Mae'r adolygiad yn ystyried gweithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn yng nghyd-destun y ffactorau economaidd ehangach, gan gynnwys perfformiad cyfraddau llog yn ystod y cyfnod, ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit ac effaith Covid-19.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod yr Adroddiad Adolygu wedi'i ystyried a'i dderbyn gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ei gyfarfod ar 1 Medi, 2020. O safbwynt strategaeth fenthyca'r Cyngor, roedd benthyca yn ystod y flwyddyn o fewn y terfynau a osodwyd gan y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2019/20 ac roedd yn unol â'r Dangosyddion Darbodus. Nid aethpwyd dros y Terfyn Benthyca Awdurdodedig (£178m) na'r Ffin Weithredol (£173m) yn ystod y flwyddyn, gyda swm y ddyled allanol yn cyrraedd £139.2m yn unig ar ei huchaf,  sydd i'w briodoli i danwariant mawr ar brosiectau cyfalaf fel yr amlinellir ym mharagraff. 3.1 o'r adroddiad. Mae'r Cyngor wedi gweithredu strategaeth fenthyca fewnol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf sy'n golygu ei fod wedi defnyddio ei falansau arian parod ei hun i ariannu gwariant cyfalaf newydd ar y sail y ceir y gwerth gorau trwy osgoi benthyca'n allanol pan fo cyfraddau buddsoddi yn is na chyfraddau benthyca tymor hir (pryd mae cost benthyca yn fwy na'r enillion ar fuddsoddiadau). Ar 31 Mawrth, 2019 roedd y Cyngor wedi defnyddio £6.2m o'i falansau arian parod i ariannu gwariant cyfalaf ond erbyn 31 Mawrth, 2020 roedd y Cyngor wedi benthyca i lefel o £2.3m yn fwy nag oedd angen o ganlyniad i gael benthyciad o £10m ym Mawrth i sicrhau bod gan y Cyngor ddigon o arian parod wrth fynd i mewn i’r argyfwng Covid-19. Bydd y benthyciad yn aeddfedu ar 18 Mawrth, 2021. Ar yr ochr fuddsoddi, cynhaliodd y Cyngor ei ddull risg isel o sicrhau mynediad rhwydd i'w arian parod pe bai angen, gan gadw at adneuon tymor byrrach (a chadw'r gallu i fuddsoddi am gyfnodau hirach hefyd) a buddsoddi arian dros ben trwy fenthyciadau tymor byr gydag awdurdodau lleol eraill i sicrhau'r enillion mwyaf mewn ffordd ddiogel.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad hwn yn parhau’n rhai dros dro hyd nes y bydd yr archwiliad o ddatganiad Cyfrifon 2019/20 wedi’i gwblhau a’i lofnodi; adroddir fel sy’n briodol ar unrhyw addasiadau sylweddol dilynol i’r ffigyrau a gynhwysir yn yr adroddiad;

           Nodi dangosyddion Pwyllog a Thrysorlys dros dro 2019/20 yn yr adroddiad;

           Trosglwyddo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2019/20 i gyfarfod nesaf y Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau ychwanegol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9