6 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Llythyr Blynyddol 2019/20 PDF 450 KB
I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019/20 ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth i ysgrifennu at Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, erbyn 30 Tachwedd 2020, i gadarnhau hynny ac i ddatgan y bydd y Cyngor yn parhau i
fonitro cwynion, a thrwy hynny ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i
aelodau er mwyn cynorthwyo i graffu ar berfformiad.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i'r Pwyllgor Gwaith i'w ystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol fod adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Llythyr Blynyddol 2019/20 yn adroddiad blynyddol ar y gwaith a wnaed gan yr Ombwdsmon dros y 12 mis blaenorol. Nododd fod hwn yn adroddiad cadarnhaol gan fod nifer y cwynion a wnaed yn erbyn y Cyngor wedi gostwng. O'r 26 o gwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, daeth yr Ombwdson i'r casgliad nad oedd angen i'w swyddfa ymchwilio i 25 ohonynt ac ymdriniwyd ag 1 gŵyn a gyflwynwyd trwy ddatrysiad cynnar.
PENDERFYNWYD derbyn Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019/20 a dirprwyo grym i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru erbyn 30 Tachwedd, 2020 i gadarnhau hynny a nodi y bydd y Cyngor yn parhau i fonitro cwynion, a thrwy hynny'n rhoi i'r Aelodau'r wybodaeth y maent ei hangen i'w helpu i graffu ar berfformiad.