Cofnodion
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cadarnhawyd cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor blaenorol a gynhaliwyd ar 30
Gorffennaf 2020 fel cofnod cywir.
Cyfeiriwyd at Eitem 3 o’r cofnodion, a mynegwyd pryder nad oedd rhai Cynghorau Tref a Chymuned wedi cymryd rhan yn ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau ar drefniadau etholiadol.
Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd gan ddweud mai ychydig iawn o Gynghorau Tref a Chymuned oedd wedi cyflwyno sylwadau ar y cynigion a gyfeiriwyd atynt yn adroddiad terfynol y Comisiwn.