Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Strategy 2021/22

Cyfarfod: 09/03/2021 - Cyngor Sir Ynys Môn (Eitem 8)

8 Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 1 Mawrth 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys 2021/22.  

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 1 Mawrth 2021 i'r Cyngor ei dderbyn.

 

Holodd y Cynghorydd Aled M Jones am y dyraniad ariannol a'r grantiau a gynigir gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.  Mewn ymateb, dywedodd Deilydd Portffolio Cyllid fod Grantiau'n cael eu rhoi gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a’i bod yn anodd rhagweld y swm a dderbynnir.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ei fod yn dibynnu ar yr adnoddau ariannol sydd gan Lywodraeth Cymru ar gael i'w dosbarthu i awdurdodau lleol a bod yr arian fel arfer yn cael ei roi drwy fformiwla i'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.  Mae rhywfaint o grantiau’n cael eu dynodi ar gyfer prosiectau penodol o fewn awdurdodau lleol ac mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd awdurdodau lleol i anfon ceisiadau grant ar gyfer grantiau o'r fath ac i wario'r grantiau o fewn y flwyddyn ariannol.  Dywedodd hefyd fod grantiau wedi eu derbyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf tuag at gynnal a chadw ysgolion a oedd yn dod i £1m. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2021/22.