Mater - cyfarfodydd

Performance Monitoring:Corporate Scorecard Quarter 3 2020/21

Cyfarfod: 08/03/2021 - Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol (Eitem 3)

3 Monitro Perfformiad: Sgorfwrdd Corfforaethol Chwarter 3 2020/21 pdf eicon PDF 890 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Penderfyniad:

Ar ôl ystyried yr adroddiad a'r diweddariadau a ddarparwyd gan Swyddogion yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor dderbyn yr adroddiad, nodi'r meysydd y mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol ac argymell y mesurau lliniaru fel yr amlinellwyd i'r Pwyllgor Gwaith.

GWEITHRED YCHWANEGOL A GYNIGIWYD:

Y Gwasanaeth Tai i ddarparu data ar reoli digartrefedd i gyfarfod nesaf y Pwyllgor

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2020/21 i'r Pwyllgor ei ystyried a'i graffu.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol yr adroddiad oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod Cymru, yn ystod Chwarter 3, mewn cyfnod atal byr cenedlaethol am 2 wythnos ar 23 Hydref 2020 a hefyd mewn cyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol (lefel 4) ar 19 Rhagfyr 2020; mae’r cyfyngiadau symud hyn wedi cael, ac yn parhau i gael effaith ar wasanaethau'r Cyngor. Fodd bynnag, mae'n galonogol nodi bod 88% o'r dangosyddion Perfformiad Iechyd Corfforaethol a gaiff eu monitro yn parhau i berfformio'n dda yn erbyn y targed a'u bod yn Wyrdd neu'n Felen gyda pherfformiad arbennig o dda o ran rheoli absenoldeb staff -  collwyd 4.69 diwrnod am bob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn yn y cyfnod yn erbyn targed o 6.91 diwrnod.  Mae’r holl ddangosyddion o dan yr is-bennawdsymud i wasanaethau digidolwedi perfformio’n well nag yn y blynyddoedd blaenorol yn ystod y pandemig. Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd Cyfryngau Cymdeithasol i rannu gwybodaeth a cheisio dylanwadu’n gadarnhaol ar ymddygiadau yn ystod y pandemigmae sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor wedi gweld cynnydd o 8,500 o ddilynwyr o ddiwedd Chwarter 3 2019/20. Ar hyn o bryd mae 15 dangosydd Rheoli Perfformiad (33%) y mae'r gwaith o gasglu data ar eu cyfer naill ai wedi'i ganslo gan Lywodraeth Cymru neu ddim yn cael ei gasglu ar hyn o bryd gan fod adnoddau wedi’u hadleoli i ddelio â'r pandemigdarperir manylion y meysydd yr effeithir arnynt yn adran 4.2 o'r adroddiad. Ar gyfer y dangosyddion sy'n weddill a nodir yn Chwarter 3 (27 dangosydd), mae 74% yn perfformio'n uwch na'r targed neu o fewn 5% i’w targedau. Mae wyth dangosydd yn tanberfformio yn erbyn eu targedau ac fe'u hamlygir fel rhai Coch neu Ambr ar y cerdyn sgorio; mae'r rhain yn ymwneud â Gwarchod y Cyhoedd, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, y Gwasanaeth Tai a'r Gwasanaeth Cynllunio. Ceir gwybodaeth esboniadol yn yr adroddiad ynghyd â mesurau lliniaru arfaethedig. Dylid nodi, fodd bynnag, fod adborth gan asiantau cynllunio lleol yn dangos mai Gwasanaeth Cynllunio Ynys Môn yw'r unig un yn y rhanbarth sy'n parhau ar hyn o bryd i ddarparu gwasanaeth mor agos i'r arfer â phosibl.

 

Cyfeiriodd Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid at rôl allweddol Gwasanaeth Cyfathrebu'r Cyngor yn ystod y pandemig ac eglurodd fod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y perfformiad gwell o ran rheoli absenoldeb staff e.e. mwy o ymwybyddiaeth o hylendid a chadw at fesurau oherwydd rheoliadau Covid-19 gan arwain at lai o "heintiau a firysau" fel y gwelwyd yn 2020/21 pan lwyddwyd bron iawn i ddileu ffliw. Dywedodd Rheolwr y Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod yr adroddiad yn cynnwys y cyfnod mwyaf ansefydlog gyda dau gyfnod o gyfyngiadau symud a niferoedd cynyddol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3