Mater - cyfarfodydd

Llangefni Golf Course

Cyfarfod: 08/03/2021 - Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol (Eitem 4)

4 Cwrs Colff Llangefni pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro.

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell i'r Pwyllgor Gwaith y dylid gohirio gwerthu tir cwrs Golff Llangefni fel y gellir ystyried opsiynau ar gyfer cynnwys y cyfan o'r tir, neu ran ohono, o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd pan adolygir y Cynllun, ac yn y cyfamser fod yr eiddo Ffridd yn cael ei farchnata i'w werthu ar y farchnad agored ac ailfuddsoddi’r arian a geir o'i werthu yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) ar yr opsiynau ar gyfer dyfodol Cwrs Golff Llangefni yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol i'r Pwyllgor ei ystyried. Roedd adroddiad canlyniadau'r ymgynghoriad yn manylu ar y cyflwyniadau a dderbyniwyd ac roedd ymateb y Cyngor wedi'i atodi.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd wybodaeth gefndirol i Gwrs Golff Llangefni gan dynnu sylw at y ffaith bod y cyfleuster yn cael ei redeg ar golled o tua £28k y flwyddyn cyn iddo gau, y bu'n rhaid i’r Cyngor roi cymhorthdal ar ei gyfer. Ym mis Mai 2018 cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith mewn egwyddor y bwriad i werthu'r cwrs Golff ac ail-fuddsoddi’r elw yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur. Mae'r broses wedi cymryd amser ac fel gyda phob agwedd arall ar gymdeithas, mae Covid-29 wedi effeithio arni. Mae darpariaeth golff dda ar Ynys Môn ac mae'r llain ymarfer yn Llangefni a ail-agorodd ym mis Ionawr 2019 o dan Golf Môn yn boblogaidd a llwyddiannus iawn a bydd yn parhau ar agor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo at drosglwyddo rheolaeth a chyfrifoldeb am y cwrs golff ym mis Chwefror 2015 i Bartneriaeth Llangefni, menter gymdeithasol yn y dref. Penderfynodd y Bartneriaeth, ar ôl adolygu perfformiad ariannol y cyfleuster a chynnal astudiaeth ddichonoldeb annibynnol, nad oedd y cyfleuster yn hyfyw o safbwynt ariannol yn y tymor hir, felly trosglwyddwyd y cwrs yn ôl i'r Cyngor ac fe’i rhoddwyd o’r neilltu.

 

Cyfeiriodd Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) at y cyd-destun gan gadarnhau bod y Gwasanaeth, yn dilyn penderfyniad blaenorol y Pwyllgor Gwaith yn 2018 i gymeradwyo mewn egwyddor y bwriad i werthu'r cwrs Golff, wedi bod yn ystyried ei ddyfodol a ph’un ai a yw gwerthu'n briodol ai peidio. Mae nifer y chwaraewyr wedi gostwng ac mae'r costau rhedeg wedi mynd yn anghynaliadwy. Mae dyletswydd ar y Cyngor i ystyried effaith gwerthu caeau chwarae arfaethedig ar iechyd a lles cymuned leol, i ymgynghori â'r gymuned ac ymgyngoreion perthnasol ac i ystyried unrhyw sylwadau a wneir. Yn unol â hynny, cynhaliodd y Cyngor broses ymgynghori ffurfiol rhwng 12 Hydref, 2020 a 30 Tachwedd, 2020 a chynhaliwyd hyn yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015.

 

Er mwyn paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod cyfreithwyr allanol wedi’u comisiynu i ddarparu canllawiau a chymorth i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â Rheoliadau Caeau Chwarae 2015. Rhwng mis Hydref 2019 a mis Mawrth 2020, cwblhaodd Swyddogion yr holl hysbysiadau ffurfiol ar y safle a'r wasg, adroddiad ymgynghori cynhwysfawr a manwl, pob adroddiad ategol ac asesiad effaith yn ogystal â sicrhau bod yr holl lwyfannau TGCh mewnol yn cydymffurfio'n llawn.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Nicola Roberts a Dylan Rees fel Aelodau Lleol gan gydnabod ei bod yn sefyllfa anodd iddynt yn lleol gan nad oedd neb am weld colli ased, ond roeddent yn derbyn bod gostyngiad yn nifer y chwaraewyr yng Nghwrs Golff Llangefni  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4