Mater - cyfarfodydd

Draft Internal Audit Strategy 2021/22

Cyfarfod: 20/04/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (Eitem 5)

5 Strategaeth Archwilio Mewnol Ddrafft 2021/22 pdf eicon PDF 381 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2021/22 a chadarnhau bod y dull a’r blaenoriaethau a amlinellir ynddi yn bodloni anghenion sicrwydd y Cyngor.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys y Strategaeth Archwilio Mewnol ddrafft ar gyfer 2021/22 i'r Pwyllgor ei ystyried.

 

Tynnodd y Pennaeth Archwilio a Risg sylw at elfennau allweddol canlynol y Strategaeth Archwilio

 

           Y cyd-destun presennol lle mae amgylchiadau digynsail pandemig y coronafeirws byd-eang wedi llunio'r rhagolygon ar gyfer 2021/22 gan arwain at ailffocysu blaenoriaethau.

           Mabwysiadu dull ystwyth sy'n seiliedig ar risg o ddarparu archwiliadau sy'n golygu y bydd gweithgarwch archwilio mewnol yn cyd-fynd â'r cofrestrau risg corfforaethol. Mewn gweithgarwch archwilio ystwyth mae gweithgarwch yn seiliedig ar risgiau ac anghenion y sefydliad; canolbwyntir ar gydweithredu a chyfathrebu rhwng y tîm archwilio a rhanddeiliaid, mae'r flaenoriaeth ar gyflymder ac effeithlonrwydd sy'n arwain at broses symlach ac archwilio cyflymach.

           Defnyddio'r model tair llinell (Llinell gyntaf - swyddogaethau gweithredol; ail linell - swyddogaethau sy'n cefnogi, monitro a hwyluso e.e. Cyfreithiol, Sicrhau Ansawdd, Diogelwch Gwybodaeth; trydedd linell - swyddogaethau sy'n rhoi sicrwydd annibynnol e.e. rheoleiddwyr mewnol ac allanol) fel fframwaith i ddod â ffynonellau sicrwydd at ei gilydd.  Bydd yr Archwiliad Mewnol yn gweithio gyda'r llinell gyntaf a'r ail linell i ddarparu’r sicrwydd hwn a bydd Tîm Busnes a Pherfformiad Corfforaethol y Cyngor yn cefnogi Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor.

           Mae canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i'r Cyngor yn golygu mai'r rhan fwyaf o weithgarwch Archwilio Mewnol fydd adolygiad o'r risgiau gweddilliol coch ac ambr ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol gan gynnwys y saith maes risg a restrir yn yr adroddiad lle mae'r Cyngor wedi asesu'r risg gynhenid a gweddilliol fel risgiau Coch.

           Adolygu'r gwaith o reoli cofrestr risg Covid-19 er mwyn sicrhau bod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn parhau i reoli’r risgiau sy'n gysylltiedig â'r pandemig yn effeithiol.

           Rheoli'r risg o dwyll sydd wedi'i waethygu gan y pandemig presennol. Yn ystod 2021/22 bydd y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn darparu hyfforddiant a phecyn e-Ddysgu i godi ymwybyddiaeth a darganfod twyll yn y sefydliad; ymgymryd â gweithgareddau i fynd i'r afael â thwyll, atal llwgrwobrwyo a llygredd, atal gwyngalchu arian ac atal ariannu terfysgaeth. Byddwn yn diweddaru'r Cynllun Ymateb i Dwyll yn unol â hynny..

           Cynnal adolygiadau o feysydd mewn ymateb i asesiad Penaethiaid Gwasanaeth o faterion risg a rheoli cyfredol fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

           Ailddechrau gwaith a nodwyd ac a gynlluniwyd cyn y pandemig pan gafodd adnoddau mewnol eu hadleoli a chanolbwyntio ar gefnogi'r ymateb brys.

           Parhau i weithredu'r broses ddilynol a sefydlwyd i sicrhau bod y rheolwyr wedi mynd i'r afael yn effeithiol â'r risgiau a godwyd gan y gwasanaeth Archwilio Mewnol.

           Gweithredu cyfres symlach o fesurau perfformiad i bennu effeithiolrwydd gwaith yr Archwiliad Mewnol.

           Ymrwymo i hyfforddi a datblygu staff y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn barhaus. Mae'r tîm yn parhau i gynnwys llawer iawn o brofiad archwilio mewnol ac allanol ynghyd â chymysgedd ardderchog o gymwysterau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5