Mater - cyfarfodydd

Overview and Scrutiny Annual Report 2020/21

Cyfarfod: 18/05/2021 - Cyngor Sir Ynys Môn (Eitem 8)

8 Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini 2020/21 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD :-

 

·      Cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2020/21;

·      Nodi’r cynnydd parhaus a wnaed wrth weithredu'r siwrnai ddatblygu Sgriwtini leol a'r effaith y mae hyn yn ei gael ar ymarfer;

penodi Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio fel y Pencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Mai 2021 i Mai 2022.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2020/21 gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

 

Adroddodd y Cynghorydd A M Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod y Cadeiryddion Sgriwtini wedi datblygu blaen raglenni gwaith y naill Bwyllgor Sgriwtini. Roedd y Cynghorydd G O Jones yn dymuno diolch i’r Paneli Sgriwtini am eu gwaith i gefnogi proses sgriwtini’r Cyngor. Nodwyd bod angen penodi Pencampwr Sgriwtini i hyrwyddo’r swyddogaeth trosolwg a sgriwtini yn y Cyngor ac â phartneriaid allanol yr Awdurdod yn ogystal. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2020/21;

·      nodi’r cynnydd parhaus a wnaed wrth weithredu'r siwrnai i ddatblygu Sgriwtini leol a'r effaith y mae hyn yn ei gael ar ymarfer;

·      penodi Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn Bencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Mai 2021 i Mai 2022.