Mater - cyfarfodydd

Summary of Draft Final Accounts 2020/21

Cyfarfod: 12/07/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Cyfrifon Terfynol Drafft 2020/21 a defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau pdf eicon PDF 622 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

·        Nodi’r prif ddatganiadau ariannol (heb eu harchwilio) ar gyfer 2020/21.

·        Nodi’r sefyllfa o ran y balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a chymeradwyo creu’r cronfeydd wrth gefn a nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad yn gwneud cyfanswm o £5,181,646.

·        Nodi’r sefyllfa o ran balansau ysgolion.

·        Cymeradwyo cynyddu isafswm Balans y Gronfa Gyffredinol i £9m. Adolygir y swm eto wrth osod cyllideb refeniw 2022/23.

·        Cymeradwyo creu Cronfeydd Gwasanaeth gwerth cyfanswm o £1.376m yn unol â Thabl 3, Atodiad 1 yr adroddiad.

·        Awdurdodi mewn egwyddor, defnyddio hyd at £3.471m (£1.217m o falans y Gronfa Gyffredinol a £2.254m o gronfeydd wrth gefn clustnodedig nad ymrwymwyd) i gyllido prosiectau penodol sydd wedi’u cynllunio i gwrdd â’r risgiau a’r heriau sy’n wynebu’r Cyngor. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r holl brosiectau newydd cyn iddynt gychwyn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith a oedd yn cynnwys y prif ddatganiadau ariannol drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 ynghyd â manylion balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn clustnodedig y Cyngor ac argymhellion ar gyfer eu defnyddio.  

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Deilydd y Portffolio Cyllid bod yr adroddiad yn cynnwys Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft ar gyfer 2020/21 a Thaflen Falansau ddrafft hyd at 31 Mawrth, 2021.  Darparwyd gwybodaeth fanwl am falansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn clustnodedig y Cyngor yn ogystal ac mae’r adroddiad yn nodi sut y bwriedir defnyddio’r cronfeydd wrth gefn a’r balansau sydd, ym marn broffesiynol Swyddog Adran 151 y Cyngor, ar y lefel angenrheidiol i gwrdd ag unrhyw risgiau  ariannol a wynebir gan y Cyngor, i gwrdd ag unrhyw ymrwymiadau cyllido presennol ac mae’n cymryd i ystyriaeth unrhyw gyfyngiadau penodol ar ddefnydd y cyllid e.e. cyfyngiadau a osodir gan amodau grant. Gall lefel y risg a wynebir gan y Cyngor newid a chedwir golwg ar lefelau'r balansau cyffredinol a’r cronfeydd wrth gefn clustnodedig a’u hadolygu dros y misoedd nesaf. Nid yw’r ffigyrau a gyflwynwyd wedi cael eu harchwilio eto a gallant newid oherwydd y broses archwilio.

 

Bu i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddogion 151 gynghori bod y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (CIES) drafft yn crynhoi’r gost o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor yn unol â’r gofynion cyfrifo statudol a’i fod yn cynnwys costau na chodir Treth Cyngor amdanynt sydd yn egluro’r ffigwr o £24.231m. Mae’r costau sydd yn cynnwys costau dibrisiant ac addasiadau ar gyfer pensiwn yn cael eu canslo allan cyn penderfynu ar y sefyllfa derfynol mewn perthynas â’r balansau, cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, balans y cyfrif CRT a balansau ysgolion. O ganlyniad, nid oes modd tynnu cymhariaeth uniongyrchol rhwng y CIES a’r adroddiadau alldro a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ym Mehefin, 2021.

 

Roedd Balans Cronfa Gyffredinol y Cyngor ar 31 Mawrth 2021 yn £11.593m, sydd yn

cyfateb i 7.86% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22. Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi

pennu isafswm o 5% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer Balans y Gronfa Gyffredinol a byddai

hyn yn cyfateb i £7.37m. O’r herwydd, mae Balans y Gronfa Gyffredinol £4.223m yn uwch

na’r lleiafswm. Fel arfer, byddai’r Swyddog 151 yn argymell cynnal y lefelau hyn ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, fodd bynnag yng ngoleuni’r ansicrwydd ynglŷn ag effaith y pandemig ar y galw am wasanaethau’r Cyngor yn 2021/22; parhad y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru neu fel arall ac effaith y cyfyngiadau parhaus a’r cyfyngiadau cadw pellter ar allu’r Cyngor i gynhyrchu incwm drwy wasanaethau penodol, ystyrir ei bod yn synhwyrol cynyddu lleiafswm balans y gronfa  gyffredinol yn 2021/22 ac efallai yn 2022/23 hyd nes bydd effeithiau’r pandemig yn fwy eglur. Ym marn broffesiynol y Swyddog 151 byddai lleiafswm o £9m (6.1% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22) yn ddigonol i liniaru’r risgiau hyn.

 

Cyn y pandemig, roedd y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo mewn egwyddor i drosglwyddo

cyfran o’r balansau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6