Mater - cyfarfodydd

Annual Report of the Statutory Director on the Effectiveness of Social Services

Cyfarfod: 12/07/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 7)

7 Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr fel adlewyrchiad cywir o effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod 2020/21.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21 i’w ystyried.

 

Adroddodd y Cynghorydd Llinos Medi, Cadeirydd a Deilydd y Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, bod gofyniad statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i adrodd i’r Cyngor yn flynyddol ar ddarpariaeth a pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn honno. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o’r gweithgarwch yn ystod y flwyddyn yn ogystal ag amlinellu’r ffocws ar gyfer gwella ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.  Er mai adroddiad y Cyfarwyddwr yw hwn fe ddylai’r Cyngor feddiannu’r adroddiad ar y cyd gan ei fod yn adlewyrchu’r gwaith caled a’r llwyddiannau a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn. 

 

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol at yr heriau digynsail a wynebwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2020/21 o ganlyniad i’r pandemig Covid ac at ymdrechion staff y Gwasanaethau Cymdeithasol a gafodd eu cefnogi gan gydweithwyr mewnol y Cyngor a sefydliadau partner allanol i sicrhau bod pobl Ynys Môn yn aros yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn. Yn yr un modd, mae gofalwyr maeth yr Awdurdod wedi gweithio’n galed iawn i wneud yn siŵr bod y plant sydd dan eu gofal yn ddiogel ac mae’n rhaid diolch iddynt am eu hymrwymiad gwerthfawr.  Yn ystod y pandemig Covid 19, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi parhau i gwrdd â’u dyletswyddau statudol ac wedi gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW), y Bwrdd Iechyd a sefydliadau partner eraill ac roedd y Gwasanaeth Plant ac Oedolion yn destun arolwg sicrwydd gan CIW a gafodd adborth cadarnhaol. Fe wnaeth y CIW hefyd ymweld â dau gartref grŵp bach yn ystod y flwyddyn ac roedd yr adborth yn dilyn yr ymweliadau hyn hefyd yn galonogol. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn yn rhan o drafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol i wneud yn siŵr bod gan ddinasyddion Ynys Môn lais ynglŷn â phenderfyniadau sy’n effeithio arnynt hwy.  Mae’r pandemig wedi arwain at newidiadau i drefniadau gweithio drwy gynnal sesiynau cyswllt a rhyngweithio ar-lein a chynnal cyfarfodydd o bell; fodd bynnag mae Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wneud pethau’n wahanol er mwyn ymateb yn well i anghenion pobl wrth iddynt newid.

 

Wrth amlygu’r pwyntiau allweddol o ran y Gwasanaeth Oedolion a'r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd, cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol at y newid a fu tuag at sianeli digidol er enghraifft y neuaddau pentref rhithiol a gafodd eu sefydlu; yr eiddo a brynwyd yng nghanol tref Llangefni i ddarparu hwb ar gyfer Menter Môn ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu sydd ymysg dim ond un o’r enghreifftiau o gydweithio sydd wedi bod yn bwysig iawn yn ystod 2020/21 wrth ymateb i’r pandemig; y gwaith gydag ysgolion a’r Gwasanaeth Dysgu i adnabod plant bregus a threfnu darpariaeth briodol, ac at gymeradwyo 9 aelwyd maethu prif lif a 14 aelwyd person cysylltiedig (teulu neu ffrindiau) yn ystod y flwyddyn.  Mae’r rhain yn rhoi blas ar y math o weithgareddau amrywiol a gyflawnwyd ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod 2020/21. Er gwaetha’r pandemig Covid  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7