Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 07/07/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 2 MB

 

 7.1 – HHP/2021/35 – 54 Pennant, Llangefni

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCnVPUA1/hhp202135?language=cy

 

 7.2 – FPL/2021/71 – Bryn Gollen Newydd, Llanerchymedd

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I2AJgUAN/fpl202171?language=cy

 

 7.3 – FPL/2021/38 – Gwel y Mor, Bae Trearddur

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCsEOUA1/fpl202138?language=cy

 

 7.4 – VAR/2021/27 – Christ Church, Rhosybol

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I28EkUAJ/var202127?language=cy

 

 7.5 – FPL/2020/247 – Stad Y Bryn, Llanfaethlu

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NB0iuUAD/fpl2020247?language=cy

 

 7.6 - HHP/2020/253 – Plot H Lleiniog, Penmon

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NAFcQUAX/hhp2020253?language=cy

 

 7.7 – FPL/2020/165 – Adeilad Allanol 1, Lleiniog, Penmon

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiUpaUAF/fpl2020165?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1  HHP/2021/35 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 54 Pennant, Llangefni

 

Roedd y cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

7.2  FPL/2021/71 - Cais llawn ar gyfer cadw'r strwythur presennol a pharhau a'r gwaith o godi uned gwyliau ynghyd a gwaith cysylltiedig ar dir yn Bryn Gollen Newydd, Llannerchymedd

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog. 

 

7.3  FPL/2021/38 - Cais llawn ar gyfer gosod 2 pod glampio ynghyd â chreu mynedfa newydd a datblygiadau cysylltiedig ar dir ger Gwel y Môr, Penrhosfeilw, Caergybi

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog. 

 

7.4  VAR/2021/27 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a cymeradwywyd) a (03) (Mynedfa a man parcio) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/322 (newid defnydd eglwys i annedd gyda adeiladu mynedfa cerbydau newydd) er mwyn diwygio'r man parcio i hepgor darparu trofwrdd yn Christ Church, Rhosybol

 

PENDERFYNWYD gohirio’r penderfyniad ar y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

7.5  FPL/2020/247 - Cais llawn ar gyfer codi 9 annedd ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Stad Y Bryn, Llanfaethlu

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

7.6  HHP/2020/253 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Plot H, Lleiniog, Penmon

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

7.7  FPL/2020/165 - Cais llawn ar gyfer trosi'r adeilad allanol i fod yn uned gwyliau yn Outbuilding 1, Lleiniog, Penmon

 

PENDERFYNWYD gohirio’r penderfyniad ar y cais am y rhesymau a roddwyd.

Cofnodion:

7.1  HHP/2021/35 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 54 Pennant, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Mehefin, 2021, penderfynwyd cynnal ymweliad rhithwir â safle’r cais. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi'i dynnu'n ôl cyn yr ymweliad rhithwir â’r safle.

 

Roedd y cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

7.2  FPL/2021/71 – Cais llawn ar gyfer cadw'r strwythur presennol a pharhau â'r gwaith o godi uned wyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ym Mryn Gollen Newydd, Llannerch-y-medd

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Mehefin, 2021 penderfynwyd cynnal ymweliad rhithwir â’r safle cyn penderfynu ar y cais.  Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â’r safle ar 16 Mehefin, 2021.

 

Siaradwr Cyhoeddus (asiant yr ymgeisydd)

 

Dywedodd Ms Sioned Edwards fod yr ymgeisydd wedi prynu'r eiddo gyda chaniatâd cynllunio a roddwyd eisoes ar gyfer addasu adeilad allanol yn annedd. Cafodd y caniatâd ei roi’n gyntaf ym mis Awst 2016 a chymeradwywyd fersiwn wedi'i diweddaru yn ddiweddarach ym mis Ionawr 2018.  Roedd yr ymgeisydd wedi tybio bod y caniatâd a roddwyd yn benderfyniad cadarn a oedd wedi'i asesu'n drylwyr ac yn gywir gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn i benderfyniad gael ei wneud. Fodd bynnag, daeth yn amlwg bod y cynlluniau a'r adolygiad strwythurol a gyflwynwyd gyda'r cais yn gwrth-ddweud ei gilydd. Felly rhoddwyd caniatâd ar gyfer cynllun amwys a oedd yn amhosibl ei weithredu gyda'r wybodaeth a gyflwynwyd ac a gymeradwywyd. Cysylltodd yr ymgeisydd â Swyddogion Cynllunio a threfnu i’w cyfarfod, cyn gwneud unrhyw waith ar y safle.  Mae'r ymgeisydd wedi cyfarfod ac wedi ceisio rhesymu gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol. Cynhaliwyd y trafodaethau hyn dros nifer o fisoedd a gydag uwch swyddogion cynllunio ond nid oedd yr Awdurdod yn derbyn bod y caniatâd cynllunio yn amwys.

 

Mae methiant yr Awdurdod i roi ystyriaeth briodol i oblygiadau argymhellion yr Adolygiad Strwythurol ar y datblygiad arfaethedig wedi arwain at roi cymeradwyaeth sy'n amwys ac sy'n agored i gael ei ddehongli, sydd wedi peri i'r ymgeisydd fuddsoddi llawer o arian ac amser yn y datblygiad. Mae wedi ceisio rheoleiddio’r ffaith bod rheoliadau cynllunio wedi’u torri drwy gais ôl-weithredol rhannol ar gyfer codi annedd newydd. Bellach mae mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddo ystyried opsiynau pellach ar gyfer datblygu'r safle er mwyn osgoi colled ariannol sylweddol oherwydd sefyllfa sydd y tu hwnt i'w reolaeth.  Felly, mae'r ymgeisydd wedi prynu eiddo yn ddiarwybod gyda chaniatâd cynllunio nad yw'n gallu ei weithredu.  O ystyried y camgymeriad a wnaed gan y Cyngor, y gobaith yw y gall y Pwyllgor sicrhau canlyniad cadarnhaol er mwyn rheoleiddio'r mater. Ystyrir y byddai defnyddio'r safle fel uned wyliau yn ddefnydd mwy addas o'r safle na'r cais a wrthodwyd yn flaenorol ar gyfer annedd breswyl. Mynegwyd pryderon gan y Cyngor ynglŷn â chynaliadwyedd lleoliad y safle, ond mae bythynnod gwyliau eisoes wrth ymyl y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7