Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 28/07/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 928 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1 FPL/2019/338 – Cais llawn ar gyfer tynnu rhan o'r morglawdd concrid presennol a chodi morglawdd newydd yn ei le ar y terfyn yn Cerrig, Penmon

 

Penderfynwyd gohirio’r penderfyniad ar y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

7.2 FPL/2020/165 – Cais llawn ar gyfer trosi yr adeilad allanol i fod yn uned gwyliau ynghyd â thorri tair coeden sydd wedi’u gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed a phlannu coed yn eu lle yn Adeilad Allan 1, Lleiniog, Penmon

 

Penderfynwyd dirprwyo cymeradwyo’r cais i’r Swyddogion ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori yn unol â’r argymhelliad a’r adroddiad gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad, ynghyd â dileu amod 6 fel yr amlinellwyd.

 

7.3 VAR/2021/27 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a gymeradwywyd) a (03) (Mynedfa a man parcio) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/322 (newid defnydd eglwys i annedd ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn diwygio'r man parcio i hepgor darparu trofwrdd yn Eglwys Crist, Rhosybol, Amlwch

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan y barnwyd bod angen cylch troi er budd diogelwch y briffordd.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rheswm a roddwyd dros wrthod y cais)

Cofnodion:

7.1 FPL/2019/338 – Cais llawn ar gyfer tynnu rhan o'r morglawdd concrid presennol a chodi morglawdd newydd yn ei le ar y terfyn yn Cerrig, Penmon

 

Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol. Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 7 Gorffennaf 2021, penderfynwyd bod angen ymweliad safle. Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â’r safle ar 21 Gorffennaf, 2021.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y Swyddog Achos Cynllunio wedi cadarnhau yn ystod yr ymweliad rhithwir â’r safle fod cynlluniau diwygiedig wedi'u derbyn mewn cysylltiad â'r cais. Argymhellir felly y dylid gohirio gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cais er mwyn caniatáu i'r cynlluniau diwygiedig gael eu hystyried a chynnal ymgynghoriad pellach.

 

Penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

7.2 FPL/2020/165 – Cais llawn ar gyfer addasu’r adeilad allanol i fod yn uned wyliau ynghyd â thorri tair coeden sydd wedi’u gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed a phlannu coed yn eu lle yn Adeilad Allan 1, Lleiniog, Penmon

 

Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Gohiriwyd penderfynu ar y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 7 Gorffennaf 2021 er mwyn disgwyl i gynlluniau diwygiedig gael eu derbyn i ddangos y gwaith cynllunio oedd angen ei wneud o ganlyniad i'r bwriad i symud 3 coeden sydd wedi'u gwarchod ar hyn o bryd gan orchymyn cadw coed. Derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig ar 7 Gorffennaf, 2021 ac yn dilyn hynny cyhoeddwyd ymgynghoriadau diwygiedig a hysbyswyd cymdogion gyda'r dyddiad diweddaraf ar gyfer cyflwyno sylwadau ar 29 Gorffennaf, 2021.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Rhys Davies, Cadnant Planning i gefnogi'r cais gan dynnu sylw at y ffaith bod Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer addasu'r adeilad allanol yn uned wyliau eisoes wedi'i roi a bod adroddiad y Swyddog yn cadarnhau bod yr egwyddor o addasu adeiladau allanol yn llety gwyliau wedi'i sefydlu o dan bolisi TWR2 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae'r cais yn cydymffurfio â'r meini prawf a gyflwynir o dan Bolisi TWR 2 gan ei fod yn defnyddio safle addas a ddatblygwyd yn flaenorol; mae'n briodol o ran maint ac nid yw'n niweidio cymeriad preswyl yr ardal yn sylweddol. Mae'r cais hefyd mewn lleoliad cynaliadwy sydd o fewn pellter cerdded i safle bysiau a phentref Llangoed ar droed neu ar feic. Ystyrir bod y mynediad o'r briffordd sy'n arwain at Benmon yn dderbyniol gyda mân welliannau yn ogystal â'r cynlluniau o safbwynt treftadaeth. Mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â'r hyn a allai fod yn fanteision economaidd i'r ardal o ddatblygiad o'r fath, yn enwedig gan nad yw'r datblygwr yn lleol. Mewn ymateb i'r Pennaeth Gwasanaeth, mae’r ymgeisydd wedi cadarnhau bod Amos Leisure hyd yma wedi buddsoddi £4m ar draws tri safle yn Ynys Môn a'i fod yn cyflogi pedwar aelod lleol o staff yn uniongyrchol. Hefyd, mae'r cwmni'n cyflogi wyth is-gontractwr lleol yn llawn amser ac yn defnyddio tri ar ddeg o gontractwyr lleol eraill i wneud gwahanol agweddau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7