Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 28/07/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 455 KB

11.1 LUP/2021/1 - Gweithdy, Tre Wen, Pen Lôn, Niwbwrch

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I1yhZUAR/lup20211?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1 LUP/2021/1 – Cais am Dystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer y defnydd arfaethedig o’r gweithdy presennol fel anheddau (C3) yn Gweithdy, Tre Wen, Pen Lôn, Niwbwrch

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

Cofnodion:

11.1    LUP/2021/1 – Cais am Dystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer y defnydd arfaethedig o’r gweithdy presennol fel anheddau (C3) yn Gweithdy, Tre Wen, Pen Lôn, Niwbwrch

 

Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn gysylltiedig â swyddog perthnasol. Mae Swyddog Monitro'r Cyngor wedi craffu ar y cais.

 

Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio fod caniatâd cynllunio i addasu'r gweithdy yn dri annedd wedi'i roi ac yn dilyn hynny cymeradwywyd cais i amrywio'r caniatâd (VAR/2020/74) i gynnwys dau bortsh. Mae sylfeini'r ddau bortsh bellach wedi'u hadeiladu o dan y caniatâd hwn a'r mater dan sylw yw p’un ai a yw'r caniatâd cynllunio VAR/2020/74 wedi dechrau'n gyfreithlon. Dylid nodi nad yw polisïau cynllunio yn berthnasol i benderfynu ar gais am Dystysgrif Cyfreithlondeb Defnydd neu Ddatblygiad Arfaethedig (CLPUD); mae ystyriaethau'r Awdurdod Cynllunio Lleol mewn perthynas â cheisiadau o'r fath wedi'u seilio'n gyfan gwbl ar asesiad o'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd i benderfynu a yw'r datblygiad sy'n ddarostyngedig i'r cais yn gyfreithlon o dan y ddeddf gynllunio. Yn unol â'r cyngor cyfreithiol a ddarperir fel yr amlinellir yn yr adroddiad, barn y Swyddog yw bod y baich profi wedi'i gyflawni yn ôl yr hyn sy’n debygol ac felly'r argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones, ac eiliodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.