Mater - cyfarfodydd

Llangefni Area Schools' Modernisation - SOC/OBC for Ysgol Talwrn and Ysgol y Graig

Cyfarfod: 13/09/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 3)

Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni - SOC/OBC ar gyfer Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·         Cymeradwyo’r Achos Amlinellol Strategol a’r Achos Busnes Amlinellol (AAS/ABA) ar gyfer y bloc Cyfnod Sylfaen newydd yn Ysgol y Graig.

·         Cymeradwyo cyflwyno’r AAS/ ABA i Lywodraeth Cymru.

·         Cymeradwyo clustnodi derbyniadau cyfalaf ar gyfer adeiladu bloc Cyfnod Sylfaen newydd yn Ysgol y Graig.

·         Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i ddiwygio’r AAS/ABA os oes angen – os nad yw’r newidiadau’n arwain at newidiadau perthnasol (yn nhermau polisi, egwyddorion, cyfraniad ariannol, risgiau a niwed i drydydd partïon).

·         Neilltuo cyllid datblygwyr o ddatblygiadau Tai o fewn dalgylch Ysgol y Graig i gyfrannu tuag at gost y prosiect.

·         Gyda chytundeb ymlaen llaw Cadeirydd y Cyngor, eithrio hawl Sgrwtini i alw’r penderfyniad i mewn gan y bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried yr Achos Amlinellol Strategol/Achos Busnes Amlinellol mewn cyfarfod ar 16 Medi 2021. Byddai unrhyw oedi o ran dyrannu cyllid yn niweidiol i ba mor gyflym y gellid rhoi’r prosiect ar waith.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn ymgorffori'r Achos Amlinellol Strategol a’r Achos Busnes Amlinellol (AAS/ABA) ar gyfer sicrhau 65% o’r cyllid o dan Raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru ar gyfer bloc Cyfnod Sylfaen newydd yn Ysgol y Graig.

 

Rhoddodd y Cynghorydd R. Meirion Jones grynodeb o’r cefndir hyd yma. Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol ynghylch dyfodol Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth 2020 ar ôl i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Gwaith ystyried y papur cynnig ym mis Ionawr 2020. Cyflwynwyd yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 10 Rhagfyr 2020, ac ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd a’r sylwadau a wnaed, penderfynwyd argymell i’r Pwyllgor Gwaith y dylai fwrw ymlaen â’r cynnig gwreiddiol fel y ffordd fwyaf priodol ymlaen, sef cynyddu capasiti Ysgol y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Yn dilyn hynny, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith y cynnig ar 17 Rhagfyr 2020.

 

Adroddodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad bod datblygu’r Achos Amlinellol Strategol a’r Achos Busnes Amlinellol yn nodi pwynt penodol yn y broses o gwblhau’r broses foderneiddio ysgolion yn y rhan hon o Langefni. Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ar 17 Rhagfyr 2020 i fwrw ymlaen i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn a chau Ysgol Talwrn, cyhoeddwyd rhybudd statudol i’r perwyl hwnnw. Mae’r Achos Busnes Amlinellol yn nodi’r buddsoddiad disgwyliedig yn Ysgol y Graig ar ran Llywodraeth Cymru, a fydd yn darparu 65% o gost y prosiect, ac ar ran y Cyngor a fydd yn darparu’r 35% arall. Gwneir buddsoddiad y Cyngor drwy gyfuniad o fenthyca digymorth, derbyniadau cyfalaf a chyllid gan ddatblygwyr sy’n datblygu tai yn nalgylch Ysgol y Graig. Mae’r Achos Busnes hefyd yn cynnwys dadansoddiad o’r opsiynau amgen ar gyfer cyflawni’r amcanion buddsoddi yn unol â methodoleg Achos Busnes Llywodraeth Cymru. Nododd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad y bydd y prosiect, yn ogystal â chyflawni buddiannau addysgol holl bwysig, yn diddymu’r gwariant presennol a rhagamcanol ar gynnal a chadw yn Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn ac yn cyfrannu at arbedion refeniw.

 

Bydd dau o banelau Llywodraeth Cymru yn craffu ar yr AAS/ABA ac yn eu herio – sef cyfarfod y Grŵp Craffu Achos Busnes ar 16 Medi 2021 a chyfarfod Panel Buddsoddi’r Rhaglen ar 14 Hydref 2021. Wedi hynny, cyflwynir yr Achos Busnes Llawn i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i’r Swyddogion, ac yn arbennig staff y Gwasanaeth Trawsnewid, am y gwaith a wnaed i gynhyrchu dogfen mor fanwl a nodwyd y bu’r mater hwn dan ystyriaeth ers cryn amser. Wrth drafod yr adroddiad, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith eglurhad ar ddau bwynt, un yn ymwneud â lleoedd i ddisgyblion a’r llall ynghylch amserlen cyfarfodydd panelau Llywodraeth Cymru ac roedd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3