Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1  FPL/2019/251/EIA – Cais llawn ar gyfer codi uned ddofednod maes (cynhyrchu wyau) ynghyd â storfa dail, biniau bwyd a gwaith cysylltiedig yn Cae Mawr, Llannerchymedd

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  FPL/2019/338 – Cais llawn ar gyfer tynnu rhan o'r morglawdd concrid presennol a chodi morglawdd newydd yn ei le ar y terfyn yn Cerrig, Penmon

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan y barnwyd y byddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar ymddangosiad yr ardal sensitif hon a bod diffyg sicrwydd ynghylch sgil effaith datblygiad o’r fauth yn y dyfodol. Ystyrir bod y datblygiad yn groes i bolisïau PCYFF 3 a PCYFF 4 a PS20 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais).

 

7.3   VAR/2021/27 – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (02) (Cynlluniau a gymeradwywyd) a (03) (Mynedfa a man parcio) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/322 (newid defnydd eglwys i annedd ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn diwygio’r man parcio i hepgor darparu trofwrdd yn Eglwys Crist, Rhosybol

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.4  FPL/2020/215 - Cais llawn ar gyfer codi 23 o dai (yn cynnwys 4 o fflatiau) newydd ynghyd â chreu dwy fynedfa newydd a datblygiad cysylltiedig ar dir ger Lôn Lwyd, Pentraeth

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â chytundeb Adran 106 i sicrhau bod 100% o’r tai yn dai fforddiadwy a bod lle chwarae a llecyn cymunedol yn cael eu darparu fel a nodir yn yr adroddiad.

 

7.5  FPL/2021/111 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol yn safle cabannau gwyliau, gosod 30 adeilad caban gwyliau, codi adeilad derbynfa, gwaith peirianyddol i greu llyn, adeiladu lonydd preifat, adeiladu ardaloedd parcio, gwaith tirlunio meddal a chaled ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Fferm Penmynydd, Caergeiliog

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Cofnodion:

7.1  FPL/2019/251/EIA - Cais llawn ar gyfer codi uned ddofednod maes (cynhyrchu wyau) ynghyd â storfa dail, biniau bwyd a gwaith cysylltiedig yng Nghae Mawr, Llannerchymedd.

 

Gan fod Asesiad o’r Effaith ar yr Amgylchedd ynghlwm â’r cais, fe’i cyfeiriwyd at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a chafodd hefyd ei alw i mewn i'r Pwyllgor gan Aelod Lleol. Yn y cyfarfod ar 28 Gorffennaf, 2021 penderfynwyd bod angen cynnal ymweliad safle. Cynhaliwyd ymweliad safle rhithiol ar 18 Awst, 2021.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Siaradodd Ms Wendy Pugh, yn erbyn y cais a dywedodd bod y Cyngor dan bwysau i gymeradwyo’r cais gan y byddai asiant yr ymgeisydd yn apelio pe byddai’r cais yn cael ei wrthod ac y byddai’n hawlio’r costau yn ôl gan yr Awdurdod. Dywedodd bod nifer o unedau dofednod ym Mhowys sydd yn debyg i’r uned yn y cais cynllunio hwn a'u bod yn niweidiol i’r amgylchedd ac yn achosi llygredd aer a dŵr.  Bu i Ms Pugh erfyn ar y Cyngor i wrthod y cais oherwydd y bygythiad i aelwydydd cyfagos mewn perthynas â ffliw adar a llygredd dŵr. Dywedodd y gallai ffermydd eraill ar yr Ynys hefyd benderfynu trosi’n ffermydd dofednod; ac y byddai’r Ynys yn wynebu sefyllfa debyg i’r un ym Mhowys lle ceir unedau dofednod ar raddfa fawr ar hyd a lled y sir.  Dywedodd  Ms Pugh ei bod hi’n bwysig bod Ynys Môn yn cadw’i enw da mewn perthynas â chynhyrchu bwyd o ansawdd ac na fydd y cais yn creu unrhyw swyddi yn yr ardal fel y nodwyd mewn llythyr gan Gyfoeth Naturiol Cymru i’r Cyngor yn 2019 lle cyfeiriwyd at y ffaith y byddai’r adeilad llawr caled yn fferm Cae Mawr yn galluogi i staff gerdded o’r fferm i reoli’r busnes dofednod.  Aeth ymlaen i ddweud na fu llawer o ymgynghori ag aelwydydd cyfagos mewn perthynas â’r datblygiad hwn ac y deallir y byddai newidiadau’n cael eu gwneud i fynedfa’r safle.  Roedd gan  Ms Pugh bryderon ynghylch sut y byddai’r gymuned gyfagos yn mynd ati i gwyno am unrhyw broblemau o ganlyniad i ddatblygiad o’r fath yng Nghae Mawr gan y bydd y cael effaith andwyol ar yr ardal.

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith am farn y gwrthwynebwr ynglŷn â maint y sied dofednod yng Nghae Mawr. Ymatebodd Ms Pugh bod hon yn sied ar raddfa fawr mewn ardal cefn gwlad ac y byddai modd ei gweld o’r ffordd ac o eiddo cyfagos.  Dywedodd bod pryderon dybryd yn yr ardal o ran yr arogleuon a fyddai’n dod o’r safle a dywedodd ei bod wedi cysylltu â phobl o bob cwr o Gymru sydd yn byw ger datblygiadau o’r fath ac sydd wedi sôn am yr effaith y mae ffermydd dofednod o’r fath yn ei gael ar yr amgylchedd. 

 

Siaradodd Ms Gail Jenkins o blaid y cais. Dywedodd bod yr ymgeiswyr yn dymuno ehangu eu menter busnes yng Nghae Mawr a’u bod yn bwriadu cynhyrchu bwyd lleol o safon ac amddiffyn yr amgylchedd a bywyd gwyllt a pharchu’r gymuned leol ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7