Mater - cyfarfodydd

Materion Eraill

Cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 13)

13 Materion Eraill pdf eicon PDF 196 KB

13.1 FPL/2021/198 – Bryn Gollen Newydd, Llanerchymedd

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OLKeRUAX/fpl2021198?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

13.1  FPL/2021/198 – Cais llawn ar gyfer cadw’r strwythur presennol a pharhau â'r gwaith o godi uned gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir yn Bryn Gollen Newydd, Llannerchymedd

 

PENDERFYNWYD gwrthod yr argymhelliad bod swyddogion yn gwrthod penderfynu ar y cais.

 

(Yn unol â’r penderfyniad, bydd adroddiad ar y cais gwreiddiol ynghyd ag argymhellion y swyddogion yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor).

 

Cofnodion:

13.1  FPL/2021/198 - Cais llawn ar gyfer cadw’r strwythur presennol a pharhau â'r gwaith o godi uned gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ym Mryn Gollen Newydd, Llannerchymedd

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cais yn ddyblygiad o gais a wrthodwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 7 Gorffennaf, 2021 ar gyfer cadw’r strwythur presennol a godwyd heb ganiatâd cynllunio a pharhau â’r gwaith i godi uned wyliau newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig. Nid oes unrhyw ystyriaethau cynllunio newydd o bwys yn codi nas ymdriniwyd â hwy wrth wrthod caniatáu’r cais. Aeth ymlaen i ddweud bod Adran 70B(4)(b) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn rhoi’r hawl i awdurdodau cynllunio wrthod penderfynu ar geisiadau y maent wedi’u gwrthod os nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i Weinidogion Cymru mewn perthynas â chais tebyg o dan Adran 78 wedi dod i ben; mae’r broses apelio yn ddilys o hyd ac felly fe all yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad. Argymhellir bod yr Awdurdod Cynllunio yn gwrthod penderfynu ar y cais sydd gerbron y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod o'r farn, yn dilyn derbyn gwybodaeth gan arbenigwyr cynllunio, bod gan yr Awdurdod Cynllunio ddyletswydd i benderfynu ar geisiadau. Nododd y gwnaed penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau tebyg yn y gorffennol a bod y rheiny wedi arwain at apêl megis y cais yng Nghae’r Ddol, Bodorgan lle barnwyd nad oedd y cais mewn ardal gynaliadwy yn ôl yr awdurdod cynllunio ac y byddai’n ddibynnol ar deithiau car preifat ond roedd yr Arolygydd Cynllunio’n anghytuno. Rhoddodd y Cynghorydd Hughes enghreifftiau o geisiadau tebyg ar gyfer unedau gwyliau mewn cefn gwlad agored. Nododd nad oedd unrhyw wrthwynebiad i’r cais yn lleol na chan y Cyngor Cymuned ac roedd o’r farn ei fod mewn ardal gynaliadwy. Cynigodd y Cynghorydd Hughes bod y cais yn cael ei ohirio er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd a’i asiant siarad ar y cais. Eiliwyd y cynnig i ohirio’r cais gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Cynigodd y Cynghorydd Dafydd Roberts gefnogi argymhelliad y Swyddog i wrthod penderfynu ar y cais. Ni chafwyd eilydd i’r cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD gwrthod yr argymhelliad bod swyddogion yn gwrthod penderfynu ar y cais.

 

(Yn unol â’r penderfyniad, bydd adroddiad ar y cais gwreiddiol ynghyd ag argymhellion y swyddogion yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor.)