Mater - cyfarfodydd

Community Benefit Contributions Strategy

Cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 14)

14 Strategaeth Cyfraniadau Buddion Cymunedol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cefnogi a mabwysiadu’n ffurfiol y Strategaeth Cyfraniadau Buddion Cymunedol

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr ar y Strategaeth Cyfraniadau Buddion Cymunedol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd y bu rhai newidiadau arwyddocaol mewn prosiectau, polisïau a deddfwriaeth mewn perthynas â phrosiectau mawr ers mabwysiadu Strategaeth Cyfraniadau Buddion Cymunedol (CBC) gwreiddiol y Cyngor Sir ym mis Mawrth 2014, ac yn arbennig o safbwynt prosiectau ynni a’r ymgyrch i gyflawni sero-net. O’r herwydd, roedd y Cyngor yn teimlo ei bod yn amserol i ddiweddaru’r Strategaeth CBC i sicrhau ei fod yn parhau yn addas i bwrpas a’i fod yn adlewyrchu sefyllfa ddiweddaraf polisi a deddfwriaeth ynghylch yr angen i ddatblygiadau mawr ddarparu buddion cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd i gymunedau lleol. Gyda chynlluniau ar gyfer sawl datblygiad mawr ar yr Ynys yn ystod y ddegawd nesaf mae cyfle i’r Ynys barhau i dyfu a ffynnu wrth gyfrannu at amcanion cenedlaethol, gan gynnwys symud tuag at economi carbon isel a chyflawni sero-net erbyn 2050. Mae nifer o ddatblygiadau ffermydd solar, cynigion ynni llanw, cynlluniau gwynt ar y môr ac ar y tir a datblygiadau hydrogen ar y gweill.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ei bod yn bwysig bod y Cyngor Sir yn parhau i negodi a sicrhau buddion cymunedol gwirfoddol ar gyfer Ynys Môn ac i gyfathrebu i ddatblygwyr bod disgwyl iddynt gyfrannu buddion cymunedol gwirfoddol am letya datblygiadau mawr. Ychwanegodd bod alinio’r Strategaeth CBC gyda pholisi, deddfwriaeth a chanllawiau diweddaraf (gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Cymru’r Dyfodol a’r ymgyrch tuag at sero-net 2050) yn bwysig i’r Ynys yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd cefnogi a mabwysiadu’r Strategaeth Cyfraniadau Buddion Cymunedol diwygiedig.