Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 03/11/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 263 KB

10.1 – VAR/2021/70 – Plot ger Bron Wylfa, Cemaes

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3eFYUAZ/var202170?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1 VAR/2021/70 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (08) (Cynlluniau a ganiatawyd) o ganiatâd cynllunio rhif 20C85F/DA (Codi annedd) er mwyn caniatau diwygio'r dyluniad yn Bron Wylfa, Cemaes

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cofnodion:

10.1 VAR/2021/70 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (08) (Cynlluniau a ganiatawyd) o ganiatâd cynllunio rhif 20C85F/DA (Codi annedd) er mwyn caniatáu diwygio’r dyluniad yn Plot ger Bron Wylfa, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynlluio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisiau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei gymeradwyo.

Dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio, er bod y cais yn groes i Bolisi PS17 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a darpariaethau Nodyn Cyngor Technegol 6 (Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy), mae sefyllfa wrth gefn yn bodoli gan fod caniatâd wedi’i roi’n barod sydd wedi cael ei roi ar waith. Ystyrir bod y dyluniad diwygiedig arfaethedig a amlinellir yn yr adroddiad yn dderbyniol a’i fod yn welliant cyffredinol o gymharu â’r cynllun a gymeradwywyd yn barod. Nid ystyrir y byddai’r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad ac edrychiad yr ardal nac ar fwynderau eiddo cyfagos. Felly, yr argymhelliad yw caniatáu.

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad.