Mater - cyfarfodydd

Cofnodion

Cyfarfod: 24/01/2022 - Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol (Eitem 2)

2 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 392 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2021.

Penderfyniad:

Ar sail yr uchod [h.y. cyngor a roddwyd], penderfynwyd cymeradwyo gweddill  y cofnodion o’r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2021.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol yPwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar y canlynol –

Yn codi – Cynllun Trosiannol Eitem 5

Cynigiodd y Cynghorydd Gary Pritchard y dylid diwygio'r cofnodion i gynnwys cofnod o'r sylwadau a wnaed ar ddiwedd y drafodaeth ar yr eitem uchod ar bwnc Cartrefi Grŵp Bach y Cyngor (Cartrefi Clyd) a'u hailgyflwyno i'r cyfarfod nesaf.

Ar gais y Cadeirydd a ddywedodd ei fod yn credu bod yr holl faterion o bwys wedi'u cynnwys yn y cofnodion a'u bod yn unol â'r confensiwn o ran cofnodion eraill y Cyngor, dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Dros Dro (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro y dylid ymdrin â'r mater mewn dwy ran sef cymeradwyo gweddill y cofnodion (ac eithrio'r gwelliant arfaethedig), ac ymdrin â’r mater o gywirdeb o ran diwygio’r cofnod ar gyfer y cyfarfod nesaf ar wahân; byddai hyn yn caniatáu i'r cyfarfod hwn symud ymlaen i'r busnes nesaf gyda'r cafeat hwnnw.

Ar sail yr uchod, penderfynwyd cymeradwyo gweddill cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2021.