Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 02/02/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 722 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1  MAH/2022/1 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan caniatâd cynllunio HHP/2021/315 (Addasu ac Ehangu) er mwyn diwygio dyluniad arfaethedig yn 37 Penlon, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cofnodion:

11.1      MAH/2022/1 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio HHP/2021/315 (Addasu ac Ehangu) er mwyn diwygio dyluniad arfaethedig yn 37 Penlon, Porthaethwy

 

(Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, ni chymerodd y Cynghorydd Robin Williams ran yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais mae o law).

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn 'swyddog perthnasol' fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o'r Cyfansoddiad.    Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o'r Cyfansoddiad.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer mân ddiwygiadau i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio HHP/2021/315.  Y gwelliannau a gynigir yw newid edrychiad gwydr y ddau ddrws gwydr ar y drychiad Deheuol; cael gwared ar ddrws presennol y gegin a chau’r bwlch yn hytrach na gosod gwydr uchder llawn yn y

Blwch a gwneud y ffenestr bresennol yn llai, sydd bellach yn y lolfa, lleihau maint y llusern arfaethedig a newid y drysau deublyg arfaethedig i ddrysau llithro.  Ystyrir bod y newidiadau yn rhai ansylweddol. Ni fyddai graddfa’r newid arfaethedig yn cael effaith sy’n wahanol i’r hyn a achosir gan y caniatâd gwreiddiol. Ni fyddai’r cynnig yn arwain at effaith andwyol naill

ai’n weledol nac o ran amwynder lleol, ni fyddai’n creu anfantais i drydydd parti ac ni fyddai’r cynnig yn gwrthdaro â pholisïau cenedlaethol neu bolisïau’r cynllun datblygu.  Ystyrir bod y cais yn ansylweddol ac felly ei fod yn cael ei gymeradwyo o dan Adran 96A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.  Yr argymhelliad yw bod y cais yn cael ei gymeradwyo, rhoi awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth ychwanegu at, dileu neu newid/amrywio unrhyw amod(au) cyn rhoi’r caniatâd cynllunio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo'r cais ac eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.