Mater - cyfarfodydd

Local Authority Homes for Older People - Setting the Standard Charge 2022/23

Cyfarfod: 03/03/2022 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 11)

11 Cartrefi Pobl Hŷn yr Awdurdod Lleol – Gosod y Ffioedd Safonol ar gyfer 2022/23 pdf eicon PDF 369 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·       Bod y ffi safonol ar gyfer cartrefi gofal yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 yn cael ei osod ar £801.53 yr wythnos.

·       Bod y ffi llawn wythnosol fesul preswylydd ar gyfer cartrefi’r Awdurdod yn cael ei osod ar lefel sy’n cyfateb i gost lawn y gwasanaeth, sef £801.53 yr wythnos.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaeth Oedolion o ran pennu lefel Ffi Safonol yr Awdurdod ar gyfer cartrefi gofal yr awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn Ebrill, 2022 i Fawrth, 2023 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

Adroddodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn ofynnol i Awdurdodau Lleol, o dan Adran 22 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, bennu'r Ffi Safonol ar gyfer eu cartrefi. Cyfeiriodd at y sail ar gyfer cyfrifo'r Ffi Safonol fel yr amlinellir yn yr adroddiad a thynnodd sylw at y ffaith mai'r gost amcangyfrifedig fesul preswylydd yr wythnos ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2023 yw £801.53. Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith gynyddu'r ffioedd yn unol â chost wirioneddol darparu'r gwasanaeth yn raddol dros gyfnod o ddwy flynedd ac o ganlyniad i'r penderfyniad hwn roedd y ffioedd ar gyfer 2021/22 yn is na chost gofal.  O ystyried mai 2022/23 yw blwyddyn olaf y cynllun 2 flynedd i gynyddu'r ffioedd, cynigir bod y gost lawn yn cael ei chodi am ddarparu'r gwasanaeth ar gyfer 2022/23, sef £801.53 yr wythnos.

Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mai'r ffi safonol yw'r ffi y mae'n ofynnol i'r Awdurdod ei chodi ar y preswylwyr hynny yn ei chartrefi sydd â'r modd ariannol i dalu cost lawn eu gofal preswyl ac felly dim ond i gyfran gymharol fach o breswylwyr y mae'n berthnasol.

Penderfynwyd –

 

·         Bod y ffi safonol ar gyfer cartrefi gofal yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 yn cael ei phennu ar £801.53 yr wythnos.

 

·         Bod y ffi lawn wythnosol fesul preswylydd ar gyfer cartrefi’r Awdurdod yn cael ei phennu ar lefel sy’n cyfateb i gost lawn y gwasanaeth, sef £801.53 yr wythnos.