Mater - cyfarfodydd

Population Needs Assessment: Social Services and Wellbeing (Wales) Act 2014

Cyfarfod: 09/03/2022 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 5)

5 Adroddiad Drafft Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 pdf eicon PDF 298 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn gymeradwyo’r Adroddiad Drafft Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn ymgorffori Crynodeb o Gynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan Ynys Môn er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd  Bob Parry, OBE, FRAgS, wrth gyflwyno’r Crynodeb o’r Cynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan, ei fod yn cysylltu â’r eitem flaenorol o ran cefnogi amcan y Cyngor o ddod yn sefydliad sero net erbyn 2030. Mae cyflawni’r Cynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan yn dibynnu ar sicrhau cyllid allanol; bydd mabwysiadu'r Cynllun yn rhoi llwyfan i'r Cyngor wneud bidiau cryf yn seiliedig ar dystiolaeth am gyllid o'r fath a darparu dull gweithredu cyson ar gyfer y cyfnod cyflawni.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) fod y Cynllun Gweithredu Cerbydau Trydan yn ymwneud â gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn asedau’r Cyngor i’w defnyddio gan staff a cherbydau’r Cyngor a hefyd lle bo’n briodol, i’r cyhoedd eu defnyddio; bydd unrhyw ddarpariaeth breifat yn ychwanegol at ddarpariaeth y Cyngor. O ystyried bod bwriad dod a gwerthu cerbydau petrol a disel i ben yn 2030, mae'n bwysig bod gan y Cyngor gynllun yn ei le i fod yn barod ar gyfer y newid i gerbydau trydan; mae Cynllun Trawsnewid Fflyd yn cael ei baratoi ar wahân i egluro a dangos sut y bydd y Cyngor yn datgarboneiddio ei gerbydau fflyd ei hun. Mae'r Cynllun Gweithredu Cerbydau Trydan yn uchelgeisiol ac mae ei gyflawni yn amodol ar sicrhau cyllid grant allanol, mae'r costau llawn yn amodol ar gadarnhad a gwaith ymchwil pellach sydd ei angen o ran y mathau o seilwaith gwefru sydd eu hangen ac argaeledd cyflenwad pŵer. Mae’r Cyngor mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Scottish Power ynghylch y materion hyn. Mae'r Cynllun Gweithredu wrth ddangos ymrwymiad y Cyngor i weithredu isadeiledd gwefru sy'n cwrdd â gofynion trigolion ac ymwelwyr yr Ynys, ac wrth fod yn glir sut y mae'n bwriadu gwneud i hynny ddigwydd, yn golygu y bydd y Cyngor mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyfleoedd cyllid  grant pan fyddant ar gael. Dylid nodi hefyd y bydd seilwaith gwefru cerbydau trydan y Cyngor yn gwbl ddwyieithog ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth yr iaith Gymraeg.

 

Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Cludiant Strategol a Chynaliadwy) y bydd y Cynllun Gwefru Cerbydau Trydan yn cyfrannu at ddatgarboneiddio’r sector trafnidiaeth o safbwynt Ynys Môn a’i fod yn cyd-fynd â Llwybr Newydd – Strategaeth Trafnidiaeth Cymru sy’n gosod y fframwaith ar gyfer datgarboneiddio’r sector trafnidiaeth yng Nghymru gyfan a Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan i Gymru. Cyfeiriodd at yr heriau wrth gyflawni'r Cynllun gyda chyllid a chyflenwad pŵer ymhlith yr heriau mwyaf sylweddol. Bydd monitro datblygiadau wrth i dechnolegau esblygu a rhai newydd gael eu cyflwyno hefyd yn bwysig er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gyfredol o ran y sector newydd hon sy’n newid o hyd. Fodd bynnag, bydd y Cynllun Gweithredu yn darparu llinell sylfaen gadarn i adeiladu arni a symud ymlaen.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn y cyfarfod ar 28 Chwefror, 2022 wedi cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu gyda  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5