Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 06/04/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n codi pdf eicon PDF 324 KB

7.1 – FPL/2021/316 – Bryn Glas, Llanrhuddlad

FPL/2021/316

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 7.1  FPL/2021/316 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd ac adnewyddu dau adeilad amaethyddol mewn i olchdy masnachol yn ogystal â gwella’r fynediad yn Bryn Glas, Llanrhuddlad

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol i reoli’r goleuadau allanol ar y safle.  

Cofnodion:

 7.1  FPL/2021/316 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd ac adnewyddu dau adeilad amaethyddol i londret fasnachol yn ogystal â gwella’r fynedfa ym Mryn Glas, Llanrhuddlad

 

(Gan ei fod wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd K P Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais).

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol. Yn y cyfarfod ar 2 Mawrth, 2022 argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir. O ganlyniad cynhaliwyd ymweliad safle rhithwir ar 18 Mawrth, 2022.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ddatganiad gan Ms Laura Simons a oedd wedi cofrestru i siarad yn y cyfarfod blaenorol ond a oedd methu â bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw oherwydd ymrwymiadau gwaith.

 

Roedd y datganiad gan Ms Simons fel a ganlyn :-

 

Pa ddiben sydd i fusnes sydd wedi’i leoli yn y rhan fwyaf gogleddol o Gymru? Mae’r peth yn warthus yn ecolegol ac amgylcheddol. Ni ddylem fod yn annog sefydlu busnesau sy’n golygu llawer o deithio.  Mae safleoedd gwell eisoes ar gael mewn paciau diwydiannol. Pam gwario miloedd ar y safle hwn pan mae unedau mwy hygyrch ar gael yn nes at yr A55 sy’n llawer mwy addas ar gyfer y math yma o ddiwydiant? e.e. Parc Cybi. Beth yw’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol? Ni fuaswn yn gwario miloedd oni bai fy mod yn gallu gwneud elw, felly pam maen nhw?

 

Yn bennaf:

 

1.  Mae plant yn defnyddio’r lôn yn ymyl yr eiddo hwn er mwyn mynd at y bws ysgol… DOES DIM LLWYBR TROED.  Felly yn y gaeaf mae’n dywyll ac yn beryglus iawn gan fod y lôn yn gul ac ar gornel DDALL. Nid oes cyfyngiad cyflymder na mesurau gostegu traffig.

2.  Mae’r pentrefwyr yn defnyddio’r lôn i gerdded o amgylch y pentref... yn ogystal â phobl sy’n marchogaeth, seiclwyr, rhieni gyda phramiau a phobl sy’n mynd â’u cŵn am dro. NID OES FFORDD ARALL O AMGYLCH Y PENTREF. Does dim llwybrau troed.

3. Llygredd sŵn a golau di-baid. Felly mae oriau agor yn amherthnasol. Bydd y bwyleri a goleuadau’r synwyryddion yn dal i fod ymlaen.

4. I ble fydd y gwastraff yn mynd? Beth fydd yn digwydd i’r powdr golchi? Amonia? A fydd y draeni’n gallu ymdopi â hyn? Ffrwydrad stem. 

5. Nid wyf yn meddwl bod marchnad leol ar gyfer hyn? Pryderon ynglŷn ag ehangu ac oriau hirach.

6. Bydd y boblogaeth hŷn, yn bennaf, yn colli ansawdd bywyd. 

 

Darllenwyd yr e-bost canlynol a oedd hefyd wedi’i anfon gan Ms Simons:-

 

Er bod pawb o’r farn y dylem groesawu busnesau newydd i Ynys Môn ni ddylai hynny fod ar draul ansawdd bywyd Llanrhuddlad.  Mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n byw yma yn dymuno cael ymddeoliad heddychlon. Rydym eisoes yn gorfod delio â diffyg cyfyngiadau cyflymder yn y pentref. Mae diffyg palmentydd ac arwyddion ger cyffyrdd yn ei gwneud hi’n beryglus i yrwyr a cherddwyr deithio o amgylch y pentref. Mae’r ffordd yn cael ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7