Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 06/04/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion datblgu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 500 KB

11.1 – HHP/2022/38 – Mandela, Rhosmeirch

HHP/2022/38

 

11.2 – FPL/2022/23 – Ger y Bont, Elim

FPL/2022/23

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1  HHP/2022/38 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Mandela, Rhosmeirch

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2  FPL/2022/23 – Cais llawn a'r gyfer codi sied amaethyddol i storio peiriannau a'r dir ger Ger y Bont, Elim

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cofnodion:

11.1      HHP/2022/38 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Mandela, Rhosmeirch

 

(Gan ei bod wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais).

 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i ‘swyddog perthnasol’ yn unol â’r diffiniad ym mharagraff 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio mai’r brif ystyriaeth cynllunio yw'r effaith ar fwynderau lleol i eiddo cyfagos o ran y newidiadau arfaethedig i'r eiddo. Mae’r eiddo yn eiddo un llawr sengl gyda gerddi blaen ac ochr sylweddol fel rhan o'i gwrtil. Mae'r tai sengl cyfagos bob ochr i’r eiddo yn dai deulawr. Bydd llinell newydd y to yn cynnwys 4 ffenestr to a 4 ffenestr dormer ar ongl ar gyfer ystafelloedd gwely newydd yr estyniad. Bydd 2 o'r ffenestri newydd hyn i'w codi ar ddrychiad blaen yr eiddo sy'n wynebu'r briffordd gyhoeddus gyda phellter o tua. 30m o'r eiddo cyfagos agosaf. Mae'r 2 ffenestr dormer arall i'w codi ar ddrychiad cefn yr eiddo, sy'n cefnu ar gaeau amaethyddol heb unrhyw gymdogion cyfagos yn wynebu'r ochr hon. Ystyrir nad fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar gymeriad yr ardal nac ar eiddo cyfagos ac argymhellwyd bod y cais yn cael ei gymeradwyo. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Eric W Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2  FPL/2022/23 - Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol i storio peiriannau a'r tir ger Ger y Bont, Elim

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i ‘swyddog perthnasol’ yn unol â’r diffiniad ym mharagraff 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad. Roedd y Swyddog Monitro wedi craffu r y cais yn unol â’r gofyniad ym mharagraff 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cynnig yn cydymffurfio â’r polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol. Mae’r adeilad arfaethedig ar gyfer storio peiriannau amaethyddol. Ceir mynediad i'r safle drwy fynedfa amaethyddol bresennol ac ni chynigir unrhyw draciau na mannau caled fel rhan o'r datblygiad. Mae safle'r cais ar dir sy'n berchen i'r ymgeisydd ac mae’n ymestyn i 5.7erw, fodd bynnag, ynghyd â safle'r cais, mae'r ymgeisydd hefyd yn berchen ac yn ffermio tua 100 erw arall ym Modedern. Mae'r ACLl felly yn fodlon bod cyfiawnhad digonol yn bodoli ar gyfer y datblygiad. Mae'r adeilad arfaethedig yn briodol o ran ei leoliad, graddfa a dyluniad ac ni fyddai'n anghydnaws yn y dirwedd wledig. Ni ystyrir ychwaith y byddai'n achosi effeithiau annerbyniol ar fwynderau eiddo cyfagos. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod Cyngor Cymuned Tref Alaw hefyd wedi codi pryderon mewn perthynas â chael gwared ar ddŵr wyneb, perygl llifogydd, cydymffurfio â gofynion SDCau a chaniatâd hanesyddol ar y tir. Er y bydd angen cymeradwyaeth SDCau ar wahân ar gyfer y datblygiad, nid oes unrhyw faterion yn ymwneud â draenio  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11